Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 110.] CHWEFROR, 1800. [Cyf. X. Y PETHAU SYDD IAWN. Gan y Parch. WILLIAM HUGH EVANS, (W..) Rhyl. " Na ofelwcb am ddim: eithr yn mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonau a'ch meddyliau yn Nghrist Iesu. Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau bynag sydd gyfiawn, pa bethau bynag sydd bur, pa bethau bynag sydd hawddgar, pa bethau bynag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn. Y rhai a ddysgasoch ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch ; a Duw yr heddwch a fydd gyda chwi." riHLlI'lAID IV. 6 —g. YR hwn a ddywed fod Crefydd ein Harglwydd Iesu Grist yn ddiffygiol yn ei dysgeidiaeth ain ddyledswyddau y bywyd sydd yr awr hou. ac yn ei chyinhellion i ymarwcddiad rhinweddol, nid yw hwnw yn mynegu y peth fel y mae. Gwyddom i'od y fath haerhd yn cael ei wneuthur. Dywedir wrthym fod Cristionogaeth yn anwybyddu Lreintiau a dyled- swyddau naturiol a phriodol cymdeithas, ac yii ddiofal am yr hyn sydd yn angenrheidiol i ddyogelu ac i feithriu iawn berthynas rhwng dyn a dyu, ac ìawn ymddygiad y naill ddyn tuag at y llall, yn em sefyllfa bresonol. Ac am hyny nad oes gan gymdeithas oleuedig diwedd y bedwaredd ganrif ar bym- theg ddim i'w wneyd amgen na.chefnu ar y Testanient Newydd i chwilio am foes-ddvsg fwy rhagorol ; fod moeseg Cristionogaeth islaw anghenion ac hawliau oes wyddonol a dysgedig fel yr ocs hon ! Ond pwy bynag a ddywedo felly, yr wyf finau heb ddim petrusder yn dywedyd, mal y dywedodd yr Apos- tol Ioan ar fater arall, mai celwyddog yw ! Y mae hanes Cristionogaeth am yn agos i bedair canrif ar bymtheg yn tystio fy mod yn iawn. Eraill a gymerant arnynt ganmol l'esu Clrist ei Hun. lihoddant iddo gred- yd uchel fel dysgawdwr ; a chaiff y Bregetli ar y Mynydd ganddynt safle an- rhydeddus iawn. Yr oedd dysgeidiaeth Iesu Grist, meddynt, yn ymarferol; ac am y byd hwn : heb ynddi fwy o dduwinyddiaeth na Tiiadolaeth Duw a brawdoliaeth dyn. Ac felly fod crefydd Iesu Grist ei hun yn union y peth y dylai crefydd fod : heb ei beicbio gyda dogmas, ac heb fyd arall yn perthyn