Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'"ràFÇJD aillll, Rhif 106.] HYDREF, 1895. [Cyp. IX. W E)aî>ôuì>t>íab o Bbuw. G-an 7 diwedàar Barci, Eowland Hughes (W.) O herwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy ; canys Duw a'i heglurodd iddynt. Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg ; sef ei drag- wyddol allu ef a'i Dduwdod ; hyd cnid ydynt yn ddiesgus : oblegyd ahwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac na buont ddiolchgar iddo ; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd. Rhuf i. 19—22. (RIF amcan yr apostol, yn y geiriau hyn, ac yn y cyd-destyn, yw, amddiffyn cyfiawnder cymeriad y Duw byw, ac amlygu ei fod yn ymddwyn yn deil- wng o'r cyfryw gymeriad, yn yr holl ddyrnodiau barnol a roddodd i'r Cenedloedd, o herwydd eu heilun-addoliaeth. Y mae yr apostol yn seilio ei haeriad, )'n benaf, ar y wybodatth oedd ganddynt am y gwir Dduw, a'u hadnabyddiaeth o egwyddoricm gwell. Er nad oedd manteision y Cenedloedd yn gyfartal i'r eiddo yr Iuddewon ; ac er na fynegodd Duw ei eiriau iddynt hwy, fel y gwnaeth i Jacob ac Israel, eto nid oeddynt yn hollolanwybodus am dano ef: "ni adawodd ef mo hono ei hun yn ddidyst," yn eu plith ; " o herwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw sydd eglur ynddynt hwy." Nid y cyfan a all dyn ei wybod am. Dduw, yn hysbys i'r cenedloedd, yw meddwl yr apostol; oblegyd y mae yn yr efengyl ddatguddiad o hono ag sydd yn tra rhagori ar bob peth a fu yn eu meddiant hwy mewn unrhyw genedlaeth ac oes. Er na ellir " cael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd," eto gellir cael adnabyddiaeth lawer helaethach o hono nag oedd yn medd- iant y cenedloedd gynt; am hyny, y mae rhai beirniaid yn cyf- jeithu y geiriau uchod yn y modd canlynol: " 0 herwydd, y