Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'TTCiSrorD ©TMlll, Rhif 104.] AWST, 1895. [Cyf. IX. H?r î?6gol Säfcbotbot. Y DIWEDDAR BAR'OH. E. T. DAYIES, ABERGELE. " Y rhai byn oedd foneddigeiddiach na'r rhai oedd yn Thessalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr Ysgrythyrau a oedd y pethau hyn felly." Actau xvii. 2. >OBL a ymgyfarfyddent yn synagog yr Iuddewon yn Berea oedd y " rhai hyn," ac y dywedir eu bod " yn foneddigeiddiach na'r rhai " a ymgyfarfydd- ent felly yn Thessalonica. Trefydd yn rhanddwy- reiniol Macedonia oedd Berea a Thessalonica, ac ymddengys fod gan yr Iuddewón synagog yn y naill a'r llall o honynt pan ddaeth yr apostol gynt ar ei daith. I ba dref bynag yr elai Paul os byddai gan yr Iuddewon synagog ynddi, ei " arfer " ef oedd myned " i mewn atynt," ac felly y gwnaeth yn Thessalonica, a thros dri Sabbath, efe " a ymresymodd a hwynt allan o'r ysgrythyrau, gan egluro a dodi ger eu bronau mai rhaid oedd i Grist ddyoddeí a chyfodi oddiwrth y meirw, ac " mai hwn yw y Crist Iesu yr hwn yr wyf yn ei bregethu i chwi," &c. Pobl anwybodus, ragfarnllyd, balch,a hunanol oedd y Thessaloniaid hyn, a phan ddygodd yr apostol oleuni i lewyrchu arnynt trwy yr hwn y dangosai eu cyf- eiliornadau a'u camgymeriadau iddynt, ymgynhyrfent ac ym- wylltient yn wyneb y goleuni, ac ymroddent fel gwallgofiaid cyn- ddeiriog, gan nas gallent ei ddiffodd, i gospi ac ymlid p'u mysg yr hwn a'i dygai; gan nas gallent ymresymu a Phaul nes ei orch- fyg\x, nid oedd ganddynt ddim ond ymroi ati i'w erlid, a hyny o ädifrif ac a'u holl egni. Yr m achos sydd-wedi pèri erledigaeth