Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

>UJIií»OT3> aTMBW, Rhif 103.] ^/ GORPHENAF, 1895. [Cyp. IX. 3e£)U <Bti6t í Beçrnaöu. GAN Y DIWEDDAR BAROH. W. THOMAS, (Islwyn). " Canys rhaid iddo deyrnasu liyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed." 1 Coi?. xv. 25. £L i bob teyrnas arall, y mae i deyrnas Crist ei gwrthwynebwyr. Mae atalfeydd cedyrn ar ei ffordd, ac yn rhwystro ei mynediad yn mlaen. Ac fel y mae hi yn ddyrchafedig- goruwch holl deyrnas^- oedd y byd, y mae ei gelynion yn gryfach, yn lluosocach, ac yn ddyfnach eu dyfais na gelynion -unrhyw ymerodraeth arall. 1. Mae pob dyn yn bersonol, dan bechod, yn elynol, ac yn cynal i fynu wrthryfel drahaus yn ei herbyn. Yn ei feddyliau, ei ymddyddanion, a'i holl ymddygiad mae yn elyn i Grist, ei bobl, a'i freniniaeth. Mae ei galon yn llawn o elyniaeth tuag atl. Mae yn casau ei deddfau, ac nid oes i'w hegwyddorion le yn ei feddwl. Mae yn ymwerthu, enaid a chorph, i wasanaeth Satan ; yn rhoddi ei feddyliau, ei gyneddfau, ei amser, a'i holl aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod. 2. Y mae holl deulu dyn, yn y mwyafrif o honynt, mewn undeb agos, yn ymgyfathrachu trwy dwyll, dyfais, a gallu, i ddarostwng y deyrnas gyfryngol. Y mae " breninoedd y ddaear yn ymosod, a'r penaethiaid yn ymgynghori yn nghyd," yn ei herbyn. Mae éi hegwyddorion yn rhy bur a dysglaer i oddef eu gormes a'u tra- hausder : y mae safon ei moesoldeb yn rhy uchel i gnawdolrwydd aç uchelfrydedd daearol ei gyrhaedd ; y mae ei deddfau yn rhy