Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yi. Rhif ioo.] / EBRILL, 1895. [Cyf. IX. fffimonell (Swír mertfc. Gan y PARCH. B. DAYIES, Tre Lech. "Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifît heb ofni llid y brenin, canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig." Hebreaíp xi. 27. ELWIR y benod hon yn benod enwogion y ffydd. Er mai yn gysylltiedig ag un o honynt y mae y frawddeg hon, eto y mae hi yn wirionedd am yr oll ; yr oeddynt yn gyfryw gymeriadau ag nad allesid eu ffurfìo ond drwy wroldeb a gynyrchid gan weled Duw. Nid amcan ysgnfeniad y benod oedd dangos gogoniant y cymeriadau, eithr yn hytrach dangos godidowgrwydd y ffydd a wnaeth y cymeriadau hyny yr hyn oeddynt. Ni welai yr apostol ddim un o'r personaua enwayn gy- meriad digon sanctaidd i'w osod yn esiampl i'r Hebreaid, ond gallodd -ddywedyd am y rhinwedd a roddodd iddynt anfarwoldeb "ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Fel mai yn nerth y ffydd hono y cyfiawnodd eu blaen- oriaid orchestion, felly yn nerth yr unrhyw fíydd y galluogid hwythau i orchfygu anhawsderau a'u hamgylchynent. Penod y ffydd yw hon, ac y mae ffydd wedi ysgrifenu llawer penoi ar ei hol, sydd mor ddwyfol, mor ysbrydol, ac mor barhaol a hithau. Ni roddir yr un amlygrwydd i bob dyn da, am nad ywdaionipob un yr un faint, ac nad amgylchynir yr un daioni gan yr un fath anhawsderau, ond os na ddaw pawb i'r un amlygrwydd fel ag i gael lle arbenig i bob un, gallwn ddyfod i fewn i'r frawddeg hono, "amser a ballai i mi fynegu am Gideon," &c.