Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'tr&Fcra úTmwm, ^jâ Rhif 98.] Q(k MAWRTH, 1895. [Cyf. IX. £ôfwi>6 pergamus, Gan y diweddar Barch. JAMES RICHARDS, Pontypridd. " Eithr y mae genyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegyd bod genyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu. Felly y mae genyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid. yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasau. Édifar- ha ; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt a chleddyf fy ngenau. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o'r manna cudd- iedig, ac a roddaf iddo gareg wen, ac ar y gareg enw newydd wedi ei ysgrifenu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn." Dat. 11. 14—17. MAE y rhan flaenorol o'r llythyr yn ddangosiad o'r Llefarwr Dwyfol, " Yr hwn sydd ganddo y cleddyf llym dau finiog ;" ac yn goffhad o weithredoedd cymeradwy yr eglwys—" Dal fy enw i, ac ni wed- aist fy ffydd i;" " Lle y mae gorseddfainc Satan, ac yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi." Y mae yr adnodau a ddarllenwyd yn cyn- v/ys dangosiad o'r gweithredoedd ntu yr ymddygiadau diffygiol ac anghymeradwy, yn nghyda galwad i edifeirwchgyda öygythiad ac i wrthsefyll a gorchfygu gydag addcwid. Y pethau diffygiol yn yr eglwys hon. Yr oedd yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd Balac i fwrw rhwystr yn erbyn meibion Israel, i fwytapethau wedi eu haberthu i eilunod ac i odinebu. " Felly, y mae genyt tithau rai yn dal athrawiaeth y Nicoliaid, yr hyn beth wyf fi yn ei gashau." Y mae y gair athrawiaeth yn digwydd ddwywaith—athrawiaeth Balaam, ac