Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mmËàWmm airMira Rhif 96.] RHAGFYR, 1894. [Cyf. VIII. fêwír (Brefubfc. Gan y Diweddar Barch. OWEN THOMAS, D.D., Le'rpwU " Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod, ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glan." Rhufeiniaid xiv. 17. AE yr apostol yri y benod hon wedi bod yn ym- drin ag amryw bethau ag yr oedd cryn wahan- iaeth yn ngolygiadau y Cristionogion yn eu cylch, er nad oeddynt ynddynt eu hunain na da na drwg, ond eu bod yn peryglu, oblegid y gwahanol syn- iadau, heddwch yr eglwys ar y pryd. Yr oedd yr eglwys yno, fel ymhob man arall braidd y pryd hwnw, yn cael ei gwneyd i fyny o Iuddewon a Cherrhedloedd. Yr oedd yr Iuddewon yn wasgaredig, fel y maent eto yn mhob parth braidd o'r byd adnabyddus, a mwy o lawer o honynt yn cael eu galw i gofieidio 'r efengyl yn yr oes hono nag mewn un oes hyd yn hyn ar ol hyny. Yr oedd yr Iuddewon wedi eu dwyn i fyny o'u mebyd yn yr Ysgrythyrau a'r seremoniau Lefiaidd, ac yn ys- tyried rhai dyddiau heblaw y Sabbath yn fwy cysegredig na dydd- iau eraill; rhai bwydydd i'w defnyddio, ac eraill i ymwrthod a hwy, ac er derbyn yr efengyl a chredu yn Iesu Grist, eto yr oedd llaw- er ohonynt heb ddeall eu rhyddid Cristionogol yn iawn, ac yn meddwl fod y rhwymedigaeth yn parhau arnynt i ystyried yr un pethau ac i ymddwyn yr un modd gyda golwg arnynt, ac yn en- wedig felly y pryd hwn. Byth. er y caethiwed yn Babilon, yr oeddynt yn ffieiddio eilun-addoliaeth yn fawr, a phob peth a