Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 93.] MEDI, 1894. [Cyf. VIII. "XIo0ôoî)ö ç Jfeôín." Gan y diweddar Barch. THOMAS REES, D.D., ABERTAWE. ____♦ #____ "JJosgodd y fegin ; gan dân y darfu y plwm; yn cfer y toddodd y toddydd: canys ni thynwyd y rhai drygionus ymaith." Jer. vi. 29. AE y prophwyd yma yn cymharu y bobl y llafur- iai yn eu mysg, fel cenad yr Arglwydd, i fwn y tybid fod arian ynddo. Darlunia y mwn yn cael ei * roddi yn y ffwrnes, a phlwm gydag ef, er cario ym- 'aith y sorod, a megin i chwythu y tan er cynyrchu digon o wres i'w doddi. Yn lle cyraedd yr amcan mewn golwg, mae'r tan yn difa y plwm, a llosga y fegin yn angerdd y gwres, tra'r mwn yn aros o hyd heb ei doddi. Darluniad cywir a tharawiadol iawn o galedwch digyffelyb calonau dynion anedifeiriol, ac aneffeithiolrwydd am- rywiol weinidogaethau yr Arglwydd i'w toddi a'u puro. I. Mae yr Arglwydd yn defnyddio offerynau a moddion cyf- addas iawn at gyfnewid a diwygio pechaduriaid. Nid oes dim mwy cyfaddas at doddi mwn na than mewn ffwr- nesa megin gref i chwythu arno, "Y tawddlestr i'r arian, a'r ffwr- nes i'r aur." Mae y cystuddiau a esyd yr Arglwydd ar ddynion, marwolaethau yn eu teuluoedd, siomedigaethau a cholledion yn eu galwedigaethau, yr amrywiol ofidiau eraill y maent yn agored iddynt, yn nghyda rhybuddion a bygythion taranllyd ei Air, oll fel cynifer o farwor tanllyd, wedi eu hamcanu i doddi pechadur- iaid i edifeirwch. Llais pob goruchwyliaeth chwerw a bygythiad