Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'OT^W® Rhif 92.] AWST, 1894. [Cyf. VIII. Barparíaetb pr J6fenöi>l Gan y diweddar Barch. LEWIS JONES, Pentre, Rhondda. ____* *____ " A phan glywodd rhywun o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw wr a wnaeth swper mawr, ac a wa- hoddodd lawer ; Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch, canys weithian y mae pob peth yn barod. ............A'r gwas hwnw pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w Arglwydd. Yra gwr y ty, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i beolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafus, a'r cloífion. a'r deillion. A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist; ac eto y mae lle. A'r Arglwydd a ddy- wedodd wrth y gwas, Dos allani'r prif-fíyrdd a'r caeau, a chymhell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhy. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwyr hyny a wahoddwyd, brofi o'm swper i." Luc xiv. 15—24. N y rhan gyntaf o'r ymddiddan yma yr ydym yn dysgu dwy wers bwysig. Y gyntaf yw gostyng- eiddrwydd, " Ac efe a ddywedodd wrth y gwahodd- edigion ddameg," pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uwchaf. Yr ydym yn gweled yma nad oedd ymddygiadau gweddus mewn cymdeithas ddim islaw ei sylw. Nid yw crefydd yn dysgu dyn i fod yn hyf ac anfoesgar, ac y mae y rhai hyny sydd dan ei dylanwad yn foddlawn ar y sefyllfa y maent ynddi, heb ymestyn at a chwenych sefyllfa nad oes ganddynt yr un hawl iddi. Y mae y wireb hono, " Yr hwn a ddyrchafo ei hün a ddar- ostyngir, a'r hwn a ddarostyngo ei hun a ddyrchefir," yn wir- ionedd cyffredinol. Ymae felly rhwng dynion. Teimlir rhywfath o foddhad mewn taro i lawr y balch, tra y rnae ymddygiad gweddus a gostyngedig yn rhwymo pawb i'w parchu ac i ddymuno ei