Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 91.] GORPHENAF, 1894. [Cyf. VIII. ÖMWôW)WôW5W0WôWÜW^ÄW^^ Sçlfaen çr jêôIwçô. GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN THOMAS, CAERFYRDDIN. " Ac yr ydwyf finau yn dywedyd i ti, mai tydi ÿw Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi." Mathew xvi. 18. lYMA un o ymadroddion pwysicaf a mwyaf cynwys- fawr yr Athraw Dwyfol. Yn ei gysylltiad â'r gyffes flaenorol o eiddo Pedr, tafla oleuni mawr ar berson a gwaith, ar gymeriad a gweinidogaeth yr Arglwydd Iesu. Arweinia ni yn ol at ddechreuad Cristion- pgaeth—at amser ei sefydliad. Hwn yw y tro cyntaf y cyfarfyddwn â'r gair eglwys yn y Testa- ment Newydd. Mae y gair, yn nghyd a'r meddwi gogoneddus a gynwysa, fel ymddangosiad goleuad newydd yn ffurfafen Dadguddiad. Ceir y gair yn fynych yn yr Actau, yr Epistolau, a'r Dadguddiad. Nid oes un gair arall, gyda'r eithriad o'r gair Crist, wedi myned a chymaint o le yn llenyddiaeth grefydd- ol y byd. Mae y sefydliad gogoneddus a ddynodir trwy y gair, sef y gynulleidfa Gristionogol, wedi cynyddu a dadblygu i'r fath faintioli erbyn heddyw, fel y mae yn meddu ar y lle pwysicaf a mwyaf anrhydeddus o sefydliadau y byd, ac yn ymledu acyn enill tir newydd yn barhaus. Yn y testyn, cawn yr eglwys o dan y ffugr o adeilad. Sylwn ar y sylfaen ar ba un yr adeiladir, yr ad- eiladaeth, yn nghyd a'i chadernid a'i dyogelwch.