Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 90.] MEHEFIN, 1894. [Cyf. VIII. Grefn Gafcw pecbaìmr. GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN HUGHES, PONT ROBERT. ____* * ____ " Ac megys y dyrchafodd Moses y sarph yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn; Fal na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caôael o hono fywyd tragwyddol." Ioan iii- 14, 15. LEFARWYD y geiriau hyn gan yr Arglwydd Iesu yn yr ymddyddan pwysfawr a fu rhyngddo â Nicodemus. Yr oedd y dyn hwn yn wr mawr yn mysg yr Iuddewon; yr oedd yn "benaeth," neu yn aelod o'r Sanhedrim. Yr oedd yn grefyddwr, yn perthyn i'r sect fanylaf yn mhlith yr Iuddewon y dyddiau hyny; "dyn o'r Phariseaid." Ac yr oedd mewn lle mawr gyda y grefydd hono; "yn ddys- gawdwr yn Israel." Ond er y pethau hyn oll, yr oedd y pethau a berthynent i'w heddwch yn guddiedig oddiwrth ei lygaid. Y mae llawer eto, er meddu pob manteision, heb ganfod y pethau sydd yn perthyn i'w heddwch rhyngddynt â Duw. Y mae ym- adroddion yr Arglwydd Iesu yn ýr ymddyddan hwn o'r pwys mwyaf, ac yn haeddu ystyriaethau dwysaf pob dyn. Mae yma amryw o bethau anghenrheidiol eu gwybod er iachawdwriaeth, yn cael eu traethu yn y modd egluraf a chyflawnaf. Y mater cyntaf yw yr anghenrheidrwydd am y cyfnewidiad mawr a raid fod ar bechadur cyn y gall fod yn gàdwedig. Mae y cyfnewidiad hwn yn cael ei osod allan trwy gydmariaeth; y gydmariaeth o eni; "geni drachefn," "geni o'r Ysbryd." Tro mawr ar ddyn yw ei eni, ond tro mwy ar yr enaid yw ei eni drachefn. Dyfodiad