Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WômwoWòWmw(^)Wẅ)w^ Rhif 89.] MAI, 1894. [Cyf. VIII. GAN Y PARCH. ABEL J. PARRY, CEFN MAWR. * « * ~ A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl-ddiwydrwydd, chwanegwch at eicb ffydd, rinwedd : ac at rinwedd, wybodaeth ; ac at wybodaeth, gymmedrolder ; ac at gymmedroldsr, amynedd ; ac at amynedd, dduwioldeb ; ac at dduwiol- deb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol. gariad. Canys os yw y pethau hyn genych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur; na diffrwyth y'ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Oblegid yr hwn nid y w y rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled yn mhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr ; canys, tra byddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth. Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist." 2 Pedr i. 5—11. TR wyf yn meddwl mai yn adnod nawfed y cawn ni t_____ hyd i ben llinyn y meddwl sydd yn y paragraff, sef y geiriau neu yr ymadrodd " gweled yn mhell." Mae yn nglyn a chrefydd ryw " weled yn mhell," —mae yna ryw bethau pell,—ac y mae yna ryw lefel yn y bywyd ysbrydol yr hwn o'i gyrhaeddyd a alluoga y person a'i mcdda i weled pethau o bell. Gwirioneddau o bell,—y mae rhai agos, rhai yn ymyl. Dau weled da sydd—gweled yn mhell, a gweled yn glir. Nid yw pob un ag sydd yn gweled yn mhell ddim yn gweled yn glir. Fe fentrwn i ag un gwr ar weled yn mhell, ond am weled yn glir yr wyf yn rhoddi i fyny. Nid yw pob un ag sydd yn gweled yn mhell mewn [Ysgrifenwyd wrth ei gwrandaw, nos Iau, Tachwedd 23, 1893.]