Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 88.] EBRILL, 1894. [Cyf. VIII. HMewçrcbu 2>elw îesu <Srí6t. GAN Y DIWEDDAR BARCH. DAVID CHARLES DAVIES, M.A., * (Diweddar Brif-athraw Coleg Trefecca.) " Eithr nyni oll âg wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megys mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megys gan Ysbryd yr Arglwydd " Fel hyn y mae y geiriau yn ol y Cyfieithiad Diwygiedig, " Eithr nyni oll âg wyneb agored yn adlewyrchu megys mewn drych ogoniant yr Arglwydd ;"—yn cl y cyfieithiad yna. ein hwyneb n^ mewn drych sydd yn ad- lewyrchu ogoniant yr Arglwydd Iesu. 2 CORINTHIAÍD Üi. l8. N y benod yma, cyn geiriau y testyn, yr unig wyneb sydd yn cael ei adnabod ydyw gwyneb Moses. Ni sonir am yr un arall cyn y geiriau yma. Am hyny fe ddylem yn gyntaf ddarllen yr hanes am wyneb Moses. " Efe a fu yno gyda'r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos. A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o'r myn- ydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru o hono ef wrtho. A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio, a hwy a ofnasant nesau ato ef." A dyna yr hanes y mae cyfeiriad ato yn yr holl benod yma, a chyfeiriad ato yn ychwanegol yn ngeiriau y testyn. Ond er fod yr hanes yn hollol eglur am wynebpryd naturiol Moses, gofynir rhyw gwestiwn wed'yn am y geiriau sydd yn adnod y testyn. Yn gyntaf, y gair " wyneb " yma. Nid oes dim anhaws- dra gyda golwg ar wynebpryd Moses, ond " nyni oll ag wyneb." [Bethel, Dolgellau, nos Sul, Tachwedd 2il, 1884, Ysgrifenwyd wrtb ei gwrandaw gan Mr, J. R. Evans, Pontricfcet School, Tregeiriog.j