Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FCTIiPUB OYMRÜ Rhif 87.3 MAWRTH, 1894. [Cyf. VIII. flbeòòianu ç <5weì>MU. GAN Y PARCH. T. TALWYN PHILLIPS, B.D., BALA. ■-'•". Bydd hefyd yn y dydd hwnw, i'r Arglwydd fwrw eilwaith ei íaw i feddianu gweddill ei bobl." ESAIAH XI II. 1| I 1A FODD y mae cyrhaedd y lliaws yw y cwestiwn a -1- ofynir gan eglwysi Lloegr y dyddiau hyn ; bnd pa fodd i gyrhaedd y gweddill yw y cwestiwn y dyîài eglwysi Cymru ei ofyn. Yn Lloegr y mae y lliaws yn esgeuluswyr o foddion gras, a'r ychydig yn eu mynychu ; yn Nghymru y mae y lliawsyn fynych- wyr o'r moddion, a'r ychydig yn eu hesgeuluso.; .Y mae diwygiadau y dyddiau gynt wedi casglu y cynhauaf i'r ysguë- or ; ond y mae ychydig ysgubau wedi eu gadael yn weddill, yma acacw, ar hyd y meusydd. Y gofyniad sydd gyda ni i'w ateb yw hwn, Pa fodd i gasglu y rhai hyn ? Pa fodd i gael gan yr Arglwydd i fwrẁ eilwaith ei law i feddianu gweddill ei bobl ? Pa fodd igael y llaw fu yn casglu y lluaws i gasglu y gweddill ? Neu meẁn geiriaü eraill, pa fodd i gael esgeuluswyr Cymru yn fynychwyr o foddion gras? Wrth esgeuluswyr, dealler, y meddyliwn y rhai sydd yn ílwyr esgeuluso holl freintiau yr efengyl, ac nid crefydd- wyr anffyddlon. Y mae yr esgeuluswyr hyn yn hynod o luosòg hyd yn oed yn Nghymru. Dywedir fod pum' can mil o'r esgeu- = lúswyr hyn yn ein gwlad, yn mhell dros un ran o bedair o brçs- wylwyr y Dywysogaeth, ac yn agos cynifer ag oedd o bobl trwy holl Gymru gan' mlynedd yn ol. Ynsicrdylai ein heglwysi wneyd .mwy o ymdreçh i gyrchu. y " defaid eraill " hyn i gorlan Iesu..Sut y gellir llwyddo 'yny gwaith' o gasglu y gweddill hyn ?