Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 86.] CHWEFROR, 1894. [Cyf. VIII. flDanplrwçfcfc ç jfarn. Gan y PARCH. J. J. ROBERTS (Iolo Carnanron), Porthmadog. * * "anys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." Pregethwr xii. 14. ^YSGIR ni yn yr adnod flaenorol mai "swm y cwbl a glybuwyd "—a glybuwyd yn y llyfr hwn—uyv/, Ofna Dduw, a chadw ei orchymynion ;" a chawn yn yr adnod hon anogaeth i gyfiawni " holl ddyled dyn " yn y ffaith y bydd i holl weithrediadau, yn gystal a phersonau, dynion gael eu dwyn i farn. Derbynia " pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff;" oblegid bernir ef "yn ol yr hynawnaeth." Bydd i ymddygiadau dynolryw yn y byd ddylanwadu ar eu cyflwr yn y farn ; a bydd eu hanes tragwyddol yn ganlyniad naturiol ac angenrheidiol eu hanes daearol. Ac yn gymaint ag y byddwn ni yn cael ein barnu yn ol ein cyflawniadau, rhaid y bydd y cyflawn- iadau hyny mewn rhyw wedd arnynt—o ran yr haeddiant neu y drwg-haeddiant—o ran yr ysprydion o honynt—yn bresenol yn y farn. Dysgir hyny yn bendant yn yr adnod hon. Gwel hefyd 2 Cor. v. 10. Ceir ynddi ddau ddosparthiad ar weithrediadau dynion ; y mae y naill, yr hwn sydd yn arwynebol a dibwys, yn eu rhanu i rai cylwcddus a dirgel. Cawn y cyntaf yn yr ymadrodd " pob gweith- red," yn yr hwn y cynwysir, heblaw gweithredoedd, bob rhan o ymarweddiad dyn ag sydd yn wybyddus yn y byd hwn. Y llall ydyw " pob peth dirgel," yr hwn, yn ychwanegol at feddyliau a dymuniadau, a gymer i fewn y gweithredoedd hyny a gyflawnir