Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 85.] IONAWR, 1894. [Cyf. VIÌI. >AOŴ)AÔA<W)äôŵOAOA^^ "Cwçmp m. J>et>r," GAN Y PARCHEDIG JOHN OWEN, M.A., Prifatfcraw Coleg Dewi Sant, Llanbedr, a Chanon Trigianol Llanelwy. * *. "O wraig, nid adwaen i ef." Luc xxn. 57. MAE cwymp yr Apostol Petr yn destyn syndod. Ond syna llawer ato tra yn byw eu hunain yn ddi- fraw a disyndod yn nhir y gwrthgiliad y cwympodd yr Apostol^iddo yn awr ei brofedigaeth. O drugar- edd, y mae llai o wadu Crist ar air yn mhlwyfi Cymreig Cymrunag y sydd mewn gwledydd eraill.' Gwarchodwyd y Cymry uniaith hyd yma gan ragfur yr iaith Gymraeg rhag rhuthr temtasiynau amheuon ac anffyddiaeth a nodweddent lenyddiaeth yr oes mewn ieithoedd eraill. Ond canfyddir arwyddion amlwg fod dydd prawf crefydd Cymru wrth y drws. Nid yw yr iaith Gymraeg mwyach yn rhag- fur genym fel cynt. Gwyneba ein gwlad yn awr ar gyfnod dwy- ieithog, pan y cynefinir ieuenctyd Cymru a r cymysgbla o amheu- on a wanychant " ysbryd yr oes " yn Lloegr a gwledydd eraill y byd Cristionogol. Cwestiwn dwys y dyddiau hyn i grefyddwyr Cymru yw, "adnabod amser ein hymweliad," a threfnu ein tŷ mewn pryd ar ei gyfer. Ein perygl yw ymfoddloni ar broffes o grefydd, ar beidio gwadu Crist ar air, tra yn ei wadu beuny<id yn ymarferol yn ein buchedd. Canlyniad naturiol anghredihiaeth buchedd yw anffyddiaeth proffes: llygrir y rhisgl yn raddòl gan lygredd y cnewyllyn. Gobeithio fy mod yn methu, ond yn ol a allaf ddarllen ar arwyddion yr amserau, cnewyllyn pechod St. Petr —gwadu Crist mewn buchedd,—yw pechod parod i amgylchu ein cenedl grefyddol heddyw. ■" Nid [pob un a'r sydd yn dywedyd