Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FUIiFUD aTMlü, Rhif 83.] TACHWEDD, 1893. [Cvf. VII. Jffçfcfc p Canwríafc. GAN Y DIWEDDAR BARCH. EVAN PUGH, (W„) DINBYCH. ' Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Capernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno."—Mathew viii 5—13. % 'R oedd yr Iesu yn awr yn Capeinaum, dinas ar lan orllewinol môr Galilea, yn agos i derfynau Zabulon a Naphthali. Yr oedd y gymydogaeth hon yn un hynod brydferth. Yma yr oedd natur fel pe wedi gwneyd cryn- hoad o'i rhagoriaethau. Ceir yma ddyffryn ffrwythlon, mynyddau uchelgrib, bryniau llechweddog, aberoedd rhedegog, a'r hen lyn byth-gofiadwy yn perffeithio yr olygfa. Yn y llanerch brydferth yma y bu y Duwdod ymgnawdoledîg yn treulio y rhan fwyaf o'i fywyd cyhoeddus; yma y cyflawnwyd y rhan fwyaf o'i " weithredoedd nerthol;" yma hefyd y dyf- erodd rhai o'i feddyliau mwyaf gogoneddus dros ei sanctaidd wefusau. Paham y dewisodd yr Arglwydd Iesu y fan hon i fod yn gylch ei weini- dogaeth, rhy anhawdd penderfynu, os nad oedd swyn yr olygfa, a'r fantais i fôrdeithio i'r trefydd cyfagos, canys yr oedd Capernaum yn borthladd cyfieus i hwylio o hono i unrhyw leoedd ar ochr y llyn; a llawer gwaith y croesodd yr Iesu yn llong fach Zebedeus, ar bob math o dywydd. Ymddengys fod Judea yn awr yn ddarostyngedig i'r llywodraeth Ruf- einigj yr hon a osodai fyddin i wylio dros ei phrif drefydd a'i dinasoedd. Byddai eu milwyr yn cael eu dosbarthu i gant o wŷr, ac yn cael eu hymddiried i ofal swyddog penodol, yr hwn a alwent yn ganwriad. Ym- ddengys fod byddin yn bresenol yn Capernaum—byddin Rufeinig; ac yr oedd un o'i milwyr " yn glaf iawn, yn mron marw." Clywodd y caỳtain fod yr Iesu wedi dyfod i'r dref, ac anfonodd ato genadau, medd Luc (vîi. 13), i erfyn arno ddyfod ac iachau ei was. Cenadau gonest oeddent