Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 82.] HYDREF, 1893. [Cvf. VII. tëaüu (Borcbfpgol (Swír (Srefçbb. GAN Y PARCH. J. J. WILLIAMS, PENYGROES. Sadrach, Mesach, ac Abednego, a atebasant ac a ddywedasant wrth y ( brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn. Wele, y mae ein Duw ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl i'n gwared ni o'r ffwrn danllyd boeth ; ac efe a'n gwared ni o'th law di, O frenin. Ac onide, bydded hysbys i ti, frenin, nad addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn i'th ddelw aur a gyfodaist." Daniel iii, 16—18. ADRACH, MESACH, ac ABEDNEGO oeddynt dri Hebrewr ieuainc, wedi eu geni a'u magu, mae'n debygol, yn Jerusalem, ac yn hanu o deulu urddasol o lwyth Judah, os nad o'r had brenhinol. Cyuierwyd hwy a'u cyfaill Daniel, yn nghydag eraill o feibion y tywysogion, gyda'r gaethglud i Babilon gan y brenin Nebuchodonos- or; ac oblegid eu rhagoriaeth mewn pryd a gwedd ac mewn dysgeidiaeth, cawsant hwy a Daniel eu dyrchafu i wasanaethu yn y llys brenhinol. Gosodwyd hwy yn llywodraethwyr ar dair talaeth Babilon, ond gwnaed Daniel yn brif gynghorwr y brenin. Yn mhen tuag ugain mlynedd wedi hyn, penderfynodd Nebuchodonosor gael eilun-dduw newydd yn ychwanegol at y nifer mawr oedd ganddo eisoes yn Mabilon. Hysbysir ni fod delw Bel neu Belus yn fawr iawn, ac wedi ei gwneyd o aur pur, ac fod y deml lle y trigai yn eang a gor- wych i'r eithaf. Bernir fod y ddelw hon gyda dodrefn y deml yn werth deugain miliwn (^40,000,000) o'n harian ni. Ond yr oedd yn rhaid i'r brenin gael eilun-dduw eto, mwy a gwychach na'r cwbl a feddai. Y mae yn gorchymyn gwneyd delw aur yn gan' troedfedd a thua deg troedfedd o led. Beth a barodd i'r brenin godi y ddelw fawr hon, ni ddywedir. Ond beth bynag oedd yr achos neu yr amcan, y mae un