Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 8i.] ' MEDI, 1893. [Cvf. VII. -^.«^—^-«^«-^-__"s*^**~^+^~^m-^----m^~~^m-^~~~jt^~~~^+^----~»_____~m^--~^m^~~^ms~~~*^^~***m^ %íaís ç Cçüawnfcer ôpöfc 0 3ffpfct>. GAN Y PARCH. WILLIAM EVANS, ABERAERON. Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef ? (hyny yw, dwyn Crist i waered oddiuchod.) Neu, pwy a ddisgyn i'r dyfnder ? (hyny yw, dwyu Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw.) Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd ? Mae y gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon : hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu ; Mai os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi." Rhufeiniaid x. 6—10. ^YWED Moses am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, " Mai y dyn a wnel y pethau hyny a fydd byw trwyddynt," ond dywed y cyfiawnder sydd o ffydd fod y " pethau hyny " wedi eu gwneyd eisoes drosorn. Gan hyny, " Na ddywed yn dy galou, Pwy a esgyn i'r nef ? neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder," &c. Nac edryched neb i fyny am Waredwr, y Barnwr a ddaw nesaf o'r nef ? Mae y Gwaredwr wedi disgyn ac esgyn. Nid yw gofynion manylaf deddf yn rhwystr mwyach i gadwedigaeth dyn, " Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sydd yn credu." Efe yw cyflawniad y ddeddf, ac efe yn unig allasai wneyd hyny, a thrwy y cyflawniad hwnw galluogir y credadyn hefyd i'w chyfiawni mewn ystyr, a rhoddi iddi fwy o an- rhydedd nag a allai trwy ufudd-dod personol. Mae trefn Duw yn ymyl dyn yn drefn barod a gorphenedig, " Mae y gair yn agos atat," &c. Mae yn syml ac eglur, hawdd ei ddeall, a hawdd cydffurfioaù amodau, "Mai os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef oddiwrth y meirw, cadwedig fyddi." Nodir adgyfodiad Crist, nid fel yr unig wirionedd sydd i'w gredu, ond fel un gwirionedd mawr, yr hwn sydd yn sefyll am, ac yn