Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PTTIiFUl* OTlllll, Iìhif 80.] AWST, 1893. [Cyf. VII. Gan y Diweddar BARCH. J. FOULKES JONES, B.A., Machynlleth. 1 Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd ; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned." Ioan xiv. 27. 'E&LLAI mai y pedair penod yma yn Efengyl Ioan, y xiv.—xvii., yw y gyfran fwyaf cysegredig o'r holl Ysg- rythyr. " Mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant," ac y mae rhagor hefyd rhwng cyfran a chyfran o'r Ysgrythyr raewn pwysigrwydd a gwerth. Y mae yr Efengylau yn hynod yn mysg llyfrau y Testa- ment newydd, ac y mae Efengyl Ioan yn hynod yn mysg yr Efengylau; ond y mae y penodau hyn yn hynod yn Efengyl Ioan. Teml yw y Beibl ag y mae iddi lawer o lys- oedd a chynteddoedd, ond y mae iddi hefyd ei chysegr. Cysegr y Dadguddiad Dwyfol yw yr Efengylau, oherwydd yma yr ydym gyda Mab Duw ei hun, awdwr y llyfr, a pherchenog y deml. Mae pob efrydydd meddylgar, yn ddiau, wedi sylwi ar ryw arbenig- rwydd neillduol yn Efengyl Ioan. Yn wir, pan y mae mesur o ddifrif- wch ar y meddwl, a graddau o ddefosiwn yn yr ysbryd, pwy na theimla nad yw efe ytna yn myned i fewn, hwnt i ryw wahanlen—i fewn i sanct- eiddiolaf y dadguddiad dwyfol— ei fod yma wyneb yn wyneb â'r Shec- inah megys, ac yn mhresenoldeb gwirioneddau tra rhagorol a gogonedd- us ? Feallai mai drychfeddwl mawr Ioan yn ei efengyl ydyw Person yr Arglwydd Iesu. Mae yn ymddangos mai ei Fessiaeth yn benaf sydd gan y tri chyntaf—Mathew, Marc, a Luc, a dyma yr achos o bosîbl eu