Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 79.] GORPHENAF, 1893. [Cyf. VII. !> Bfcebtrt a Cbretm pn fllöbrtet. GAN Y IWEDDAR BARCH. J. JONES, (VULCAN.) " Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un a'r y sydd yn credu. Canys y mae Moses yn ysgrifenu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, mai y dyn a wnel y pethau hyny, a fydd byw trwyddynt."—Rhuf. x. 4, 5. AE yr ystyr a roddir i'r gair deddfyn yr adnodau uchod yn dibynu ar yr ystyr a roddir i'r gair diwedd a geir yn y bedwaredd adnod. Os diwedd yn yr ystyr o der- fyniad a olygir, ymddengys fod yn canlyn mai y ddeddf seremoniol yw yr un y sonir am dani, oblegid i hono yr oedd Crist yn derfyniad. Eithr nid yw y syniad mai y ddeddf hono yn unig a olygir yma yn gyson â'r cyd- destynau. Nid oedd yr Iuddew yn ceisio cyfiawnder yn hono, fel y cyfryw, ar wahan i'r ddeddf foesol; ac nis gellir dweyd, yn iaith yr, ^dnodau dyfynedig, " Mai y dyn a wnel y pethau tyny a fydd byw trwyddynt." Felly, ymddengys fod y gair diwedd yma, fel mewn llawer lle arall yn y Beibl, a hen lyfrau eraill, yn golygu dyben neu amcan. Nis gall y sylwgar lai na gwybod fod geiriau yn newid eu hystyron yn nhreigliad amser, ac ymddengys fod ystyr y gair diwedd wedi cyfnewid er y pryd y cyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg. Yn awr golyga bob amser derfyuiad, ond mewn hen lyfrau, ac yn y Beibl, gol- yga yn aml ddyben neu amcan. Pa faint bynag o'r ddeddf seremoniol all- ai fod yn yr adnod dan sylw, mae ynddi lawer mwy o'r ddeddf foesol. Felly, ynte, dysgir yn y testyn—Fod dyben y ddeddf foesol yn caçl ei gyraedd drwy gredu yn Nghrist.