Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 77.] MAI, 1893. [Cyf. VII i? pren 3r a'r pren Crín. GAN Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS JOHN, GILGERAN. " Canys os gwnaut hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crîn ?" Luc xxin. 31. |~\ 7t 7^RTH y " pren îr " y deallir, yr Arglwydd Iesu Grist. j V V Gelwir ef yn Flaguryn, ac yn " bren afalau yn mhlith prenau y coed," yn " olewydden îr," yn " wir Winwydden," ac yn " Bren y bywyd." Pren îr yw pren a bywyd ynddo, pren yn llawn bywyd. Ac " ynddo ef yr oedd bywyd." Wrth y " pren crin " y deallir yma yn benaf, yr Iuddewon fel cenedl. Fe fu y genedl hon un- waith fel cedrwydden ragorol,fel un o gedrwydd Libanus ; ond ymafiodd pydredd yn ngwreiddyn y pren ; fe ddechreuodd bydru a chrino ; yn grinach grinach o un oes i oes arall; a phan y llefarodd yr Arglwydd Iesu y geiriau hyn, yr oedd y genedl yn bren crin yn ei ystyr helaeíhaf. Yr oedd wedi crino o dan farn, a'r farn hono yn awr ar ddisgyn arni. " Os wyf fi," medd yr Arglwydd Iesu, " i fyned dan y fath driniaethau, pa beth fydd diwedd y genedl hon ?" Y mater sydd yn gorwedd yn y testyn yw— Y bydd rhywbeih yn elfen- au cosbcdigaeth dyn coîledigyn y byd arall, fely gellit dweyd, ar ryw ys- tyr, y bydd yn fwy iostlym arno nag at Fab Duw yn ei ddyoddefiadau ef ary ddaear. Yr wyf yn dymuno eich sylw mwyaf astud am ychydig amser; peid- iwch pesychu os na bydd raid. Os wyf fi, y Cyfiawn a'r Sanctaidd, y di- feius a'r difrycheulyd, fel pe dywedai Mab Duw, i ddyoddef y fath ar- teithiau, i fyned dan y fath boenau, pabeth a wneir yn y crin ? pa beth fydd diwedd y genedl hon, yr hon sydd yn fuan i gael ei chymeryd ym aith a barn dymhorol, i fyned^i afael a chosbedigaeth dragwyddol ? Pa beth a wneir yn y crin ? pa beth fydd diwedd y rhai annuwiol ?