Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

%lawenŵfc p IRef am lEMfeírwcb pecbabur. GAN Y PARCH. GRIFF'TH PARRY, D.D. CARNO. " Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd y'ngŵydd angelion Duw am un pechadur a edifarhao."—Luc xv. 10. I. ACHLYSUR A ÜYIÌEN Y GEIRIAU HYN. Y?(E ddywedir i ni yn yr adnod gyntaf o'r benod fod " yr holl bublican- Jl od a'r pechaduriaid yn nesàu " at Grist, " i wrando arno." Un hynodrwydd gogoneddus ar weinidogaeth ein Hiachawdwr oedd—fod ei hwyneb hi ar y tlodion, corff mawr cymdeithas, y werin ddirmygedig, am y rhai y dywedai y Phariseaid—" Y bobl hyn," (neu "y boblach hyn ") y werinos, y mob—" melldigedig ydynt, ac ni wyddant y gyfraith." Myned i fynu ydyw mawredd dyn ; dyfod i lawr ydyw mawredd Duw. Yr uwchaf o bawb sydd yn medru disgyn ddyfnaf o bawb—a thrwy hyny y mae yn amlygu ei fawredd. Y mae Pascal wedi dyweyd mai dyna ydyw gwir fawredd,—nid cyffwrdd âg un eithaf, ond cyffwrdd â'r ddau eithaf ar unwaith, a llenwi i fyny y cyfwng sydd rhyngddynt. Felly yn ymddarostyngiad Crist y mae mawredd Duw yn dyfod i'r golwg; fel yna y gwnaeth Efe : — " Ymafiodd mewn dyn ar y llawr Fe'i dygodd a'r Duwdod yn un ; Y pellder oedd rhyngddynt oedd fawr, Fe'i llanwodd â'i haeddiant ei hun." Y cyfoethocaf o bawb a ddaeth y tlotaf o bawb, er mwyn cyrhaedd y tlodion : ac wrth gymeryd y rhai isaf i raewn, yr oedd yn cymeryd y cwbl i mewn—holl deulu dyn o fewn çwmpas çi gariad a'i iachawdwr- iaeth.