Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CTHEaFCTO ©ÌTMOTF, Rhif 73.] IONAWR, 1893. [Cyf. VII. IAWN DDEFNYDDIO'R BYD. GAN Y PARCH. HUGH JONES, (W.), BOOTLE. Luc xvi. 1—12. R OEDD Iesu Grist yn arfer cyfaddasu ei weinidogaeth i gyflwr ac angen ei wrandawyr. Engraifft darawgar o hyny ydyw y testyn. Yr oedd wedi cael dychweledig ion o blith y publicanod a'r pechaduriaid. Ei waith yn derbyn y cyfryw achlysurodd rwgnachrwydd y Pharise- aid a'r Ysgrifenyddion, pen. xv. 1, 2. Llefarodd Iesu Grist dair dameg y benod flaenorol i amddiffyn ei ym- ddygiad. Cwrs yr amddiffyniad ydyw fod cael yr hyn oedd golledig yn cynyrchu llawenydd—dyna y gwirionedd gyfleir yn nameg a ddafad a goilesid, dameg y darn arian, a dameg y mab afrad- lon. Yr oedd y publicanod a'r pechaduriaid wedi eu colli—eu colli nid yn unig gau ddeddf fawr creaduriaid moesol, ond gan gymdeithas hefyd. Yr oedd yr luddewon wedi eu colli trwy eu halltudio allan o derfynau cymdeithas, a'u difuddio o bob breintiau a manteision. Rhaid felly fod cael y ihai colledig hyn yn destyn cyfreithlon llawenydd; a dywed yr Iesu ei fod felly yn y " nef," ac yn " ngwydd angylion Duw." Wedi amddiffyn ei ymddygiad yn derbyn " publicanod a phechadur- iaid," y mae yn troi at ei ddysgyblion newydd-ddychweledig er cyfleu addysg iddynt yn y peth yr oeddynt yn agored i'r pergyl mwyaf oddi- wrtho. Perygl mawr y publicanod ydoedd casglu cyfoeth yn ffordd anghyfiawnder. Yr oedd y modd o gasglu y trethi yn rhoddi cyfleusder- au iddynt wneyd hyny. Perygl arall a ddilynai yn naturiol ydoedd ariangarwch—rhoddi y serch ar arian, a myned yn gybyddlyd. Perygl mawr y pechaduriaid drachefn ydoedd afradloni da'r byd, ei dreulio ar chwantau, blysiau, ac oferedd. Eu hafradlonedd a ffurfiai iddynt y nodwedd o fod yn bechaduriaid.