Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

,puâ €^iai*w. Rhif. 72.] RHAGFYR, 1892. [Cyf. VI. Y GWAS DA A FFYDDLAWN. Gan y diweddar Barch. DAVID SAUNDERS, D.D., Abertawe " Da, was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." —Mathew XXV. 21. 1 UOM heddyw yn hebrvng corph ein hanwyl a'n hybarch frawd ymadawedig i dy ei hir gartref; ac yr ydwyf yn dra hyderus ein bod, mewn myfyr- dod a dychymyg, wedi hebrwng ei ysbryd anfarw- ol yn llawer pellach na'r bedd. Yn y byd mawr ysbrydol yr aeth efe enyd fer o'n blaen iddo, nyni a'i gwelsom yn ymddangos gerbron ei Arglwydd, ac a glywsom eiriau 'r testyn, neu eiriau cyffelyb, yn cael eu dywedyd wrtho. Erbyn hyn, y mae efe ei hun wedi di- flanu o'n golwg, yn anrhydedd a llawenydd ei Arglwydd ; ac wrth ddychwelyd ar ol ei hebrwng mor bell ag y medrem, ni a chwen- ychem fyfyrio ar yr hyn a welsom ac a glywsom. Pa beth à fydd iddo ef yn y dyfodol diderfyn sydd o'i flaen ; ac os bydd i ni yn ein gradd, íyw yn gyffelyb iddo, pa beth a fydd i ninau? A ydyw y testyn yn cynwys awgrymiadau ac egwyddorion a'n galluoga i dremio i dragwyddoldeb, a deall hanfodion dedwyddwch y saint, er nas gallwn wybod ei ffurfìau penodol ? Pwnc ag y bu dadlu mawr arno yn Nghymru, yn gystal ag mewn gwledydd eraill, ydyw natur y cymhellion a ddylem eu defnyddio fel anogaethau i ni gyflawni ein gwahanol ddyledswyddau—ai iawn- der neu briodolder y dyledswyddau, wrth eu hystyried ynddynt eu hunain, neu a allem hefyd gymeryd i ystyriaeth y fantais a'r enill a ddeìlliai i ni o u cyflaẅni. Gyda mawr sel y gwrtbwynebai rhai i ni apeüo at ddim ond y rhwymedigaethau sydd yn codi oddjar