Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 69.] MEDI, 1892. [Cvf. VI. CafcweMôaetb brwç <3rí$t. GAN Y PARCH. JAMES CHARLES, (A.), DINBYCH. -:o:- " Yr ydych yn chwilio yr Ysgrythyrau ; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt hwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi. Ond ni fynwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd." Ioan v. 39, 40. 'N lle " Chwiliwch yr Ysgrythyrau," darllener, " Yr ydych yn chwilio yr Ysgrythyrau," yn ol y Cyf- ieithiad Diwygiedig. Dengys y cysylltiadau mai hwn sydd yn gywir. Dywedir yn y benod hon fod yr Iuddewon am gymeryd ymaith fywyd Mab Duw am iddo iachau dyn ar y Sabbath, ac am iddo ddweyd fod Duw yn Dad iddo. " Am hyn, gan hyny, yr Iuddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegyd nid yn unig iddo dori y Sabbath, ond hefyd iddo ddweyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthui ei hun yn gystal a Duw." Yna, cawn yr Iesu yn myned rhagddo i brofi fod ganddo hawl i gael ei alw yn Fab Duw, trwy ddangos fod ei weithredoedd ef fel gweithredoedd y Tad, ac fod ganddo ef fywyd ynddo ei hun fel yr oedd gan y Tad. Wedi hyn, dygir amryw dystion yn mlaen ganddo i gadarnhau yr un gwirionedd. Cyfeiria eu sylw at dyst- iolaeth Ioan Fedyddiwr, yn yr hwn yr oeddynt yn credu, ac at yr hwn yr oeddynt hwy eu hunain wedi danfon. Geilw yn nesaf ei weithredoedd ef ei hun yn mlaen i ddwyn tystiolaeth iddo, yr hyn a ystyrir ganddo yn dystiolaeth uwch a chadarnach nag eiddoloan Fedyddiwr. Tystiolaeth ardderchog yw tystiolaeth y gwyrthiau am Fab Duw. Yn ychwanegol at hyn cyfeiria eu sylw at y dyst-