Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^mlpmd Ojrnm Rhif 68.] AWST, 1892. Cyf. VI. Doetbíneb a fceall çn well naô aur ac arían. GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. PRITCHARD, (M.C.), AMLWCH. " Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian."—Diar. xvi. 16. ATER yr adnod sydd genym fel testyn ydyw, fod doethineb yn well nag aur coeth, a deall yn fwy dymunol nag arian—mewn gair, fbd cyfoeth moesol yn well ac yn fwy dymunol na chyfoeth materawl. Doethineb a deáll yn gwncyd i fyny gyfoeth moesol yn ol ein testyn, ac aur ac arian yn gwneyd i fyny gyfoeth materawl. Y mae y dyn sydd yn meddu llawer o aur ac arian, aeu werth aur ac arian, yn cael ei ystyried yn gyfoethog mewn ystyr faterawl, a'r dyn sydd yn meddu doethineb a deall yn gyfoethog mewn ystyr foesol. Y mae un yn foesol gyfoethog, a'r llall yn faterawl gyfoethog. Y mae un " yn trysori iddo ei hun," a'r llall yn gyfoethog tuag at Dduw. Doethineb a deall moesol a feddylir—" Y doethineb sydd oddi- uchod," yr hon sydd bur, heddychlawn, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a diragrith, ac "nid doethineb y byd hwn," yr hon sydd ddaearol, anianol, a chythreu- lig. Egwyddorion santaidd y Beibl yw egwyddorion yn yr enaid, yn oleuni yn y deall, yn gariad yn y serch, ac yn rhinweddau moes- ol yn y fuchedd. " Wele ofn yr Arglwydd, hyny ydyw doethineb; achilio oddiwrth ddrwg sydd ddeall." "Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth." " Pwy sydd wr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb." Dyma ddoethineb Duw, yr hyn a ys- tyrir yn ddoethineb mewn dyn gan Dduw.