Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 59] TACHWEDD 1891. [Cyf. V. YR YSGRYTHYRAU. GAN Y DIWEDDAR BARCH. RICHARD PRICHARD (w.), CAERNARFON. "Yr holl Ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder." 2 Tim. iii. 16. MAE yn hysbys i bawb a fyíyrio ya syml ar alluoedd a thueddiad y natur ddynol, fod dyn wedi ei gyfaddasu * dderbyn crefydd, ac y mae rhyw gydwybodolrwydd mewno yn perthynu i bawb yn tystio y dylent addoli rhyw fôd goruchel, sef y bôd hwnw ag y dibynwn arno am ein bywyd a'n dedwyddwch. Ond y mae amgylchiadau a sefyllfaoedd yr ardaloedd hyny ag ydynt amddifad o Oraciau • Duw, yn profi yn anwadadwy fod dyn yn dra- gwyddol annigonol i ddatguddio iddo ei hun y grefydd hono ag sydd yn deilwng o Dduw, yn gweddu i'n heisieu, ac yn arwain i wir ddedwj ddwch. Canys hyd yn nod yn Athen fawr ei dysgeidiaeth, nid oedd y Jehofa ganddynt, ond y " duw nid adwaenid," a'r holl bethau tudraw i'r bedd oeddynt bethau " nid adwaenid ;" a dios mai pethau heb eu hadwaen fuasai y pethau hyn eto onibai i Dduw ei hun ddysgu dynion a'u hysbysu o honynt. Y drefn gyntaf gan Dduw, yn more amser, i ddatguddio ei feddyliau i ddynion ydoedd mewn breuddwydion a gweledigaethau, a byddai y' personau hyny drachefn yn eu hysbysu i eraifl o'u cydgenedl- aeth; ac yr oedd oesau dynion y pryd hwnw o gyhyd parhad fel ag yr oedd tri dyn duwiol yn gallu cynal i fyny burdeb crefydd trwy draddod- iad o ddyddiau Adda hyd o fewn ychydig flynyddau i fynediad Israel i'r Aipht. Cyhyd a hyny yr ymataliodd Duw heb roddi ei ewyllys mewn ysgrifau, ond pan fyrhawyd oes dyn, megys yn nyddiau Moses, gwelodd Duw na wnai traddodiad mor tro, ac felly Efe a ysgrifenodd â'i fys ei