Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 58] HYDREF 1891. [Cvf. V. EDIFEIRWCH JUDAS ISCARIOT. Gan y Parch. FRANCIS JONES, Abergele. " Yna pan welodd Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i'r archoffeiriaid a'r henuriaid, gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion." Mathew xxvü. 3, 4. ]( X'?fN o'r cwestiynau cyntaf, os nad y cyntaf oll, sydd yn 'l! "^ gwahodd ystyriaeth wrth edrych ar y geiriau hyn ydyw, Beth oedd aracan yr Arglwydd Iesu wrth ddewis Judas Iscariot i fod yn un o'i apostolion ? Nid y bradychwr ei hun a wthiasai ei hunan arno, oblegid y mae yr Iesu yn cydnabod ei fod Ef wedi eu galw oll ; " Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg?" Pa amcan neu amcanion oedd mewn goìwg ganddo wrth alw y l'ath gymeriad a Judas i blith ei gan- lynwyr cyntaf ? Y mae amryw amcanion yn bosibl—amryw y gallwn ni feddwl am danynt, pa un bynag a ydyw ein dyfaliadau yn dod o hyd i'r gwir amcan ai peidio. (1) Dichon mai amcan yr Iesu wrth ei alw oedd, dangos fod ganddo hawl i wasanaeth dynion heb eu hachub yn gystal ag wedi eu hachub, a gallu i wneyd dcfnydd o'r hawl hono yn y cysylltiad y gwelai Ef yn dda, yn ei eglwys neu allan o honi. Pe na buasai neb ond saint yn cael eu galw un amser i wneyd gwasanaeth drosto, ni buasai y Goruchaf yn dangos y fath oruwchlywodraeth dros bechod a phechaduriaid, ag a ddengys wrth wneyd fel arall. Ac fel arall y mae yn arfer gwneyd. Cawn dalentau heb eu sancteiddio, yn gystal a rhai wedi cu sancteiddio, yn mhob goruchwyljaeth ac oes, yn cael eu gosod dan dreth i'w deyrnas Ef