Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mlpnd €2ymi*u. Rhif 57] MEDI, 1891. [Cv*. V. COLOFNAU DUW O'I BOBL. Gan y diwedüar Barch. E. Stephen (Tanymarian. Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti : lluniais di, gwas mi ydwyt; Israel ni'th anghorìr genyf.''—Esay xljv. 21. AE gofal Duw am ei eglwys wedi bod yn fawr iawn yn mhob oes o'r byd. Llawer noson dywylì a welodd hi, a llawer cwmwl du fu yn hofran uwch ei phen; ond ni bu erioed mor dywyll a chymylog arni na byddai gwawr gob- aith yn ymwthio rhwng erchwynion y cymylau erchyll, a chyda'i bysedd arianaidd yn ei chyfeirio i edrych ar iach- awdwriaeth yr Arglwydd yr hon oedd ar ymddangos. Yr oedd plant Duw y pryd hyn tu fewn i furiau cedyrn Bab- ilon, y cadwynau dur yn rhincian anobaith wrth rygnu hyd ymylon afon Euphrates, y telynau yn grogedig ar yr helyg uwch eu penau, a chalonau hen delynwyr Seion yn ymlechu yn drist, drist iawn, wrth wrando ar yr awel yn gwatwar eu caniadau wrth redeg yn erbyn eu tanau. Ond y mae y benod hon yn llawn o addewidion melus a gwerthfawr o eiddo Duw am eu gwaredigaeth o'r lle caethiwus hyny, drwy law Cyrus, Eneiniog yr Ar- glwydd. Y mae holl addewidion Duw ynddo ef yn ie ac yn Amen, a phob iota o honynt yn cynwys tlysau mwy eu gwerth nag aur coeth o Ophir, ac yn eu plith nid oes yr un yn fwy tlws a gwerthfawr nag addew" id ein testyn, " Israel, ni'th anghofir genyf." Pan ydym yn darllen am Dduw yn cofio ac yn anghofio, yr ydym i ddeall mai ymadroddion ydynt i osod alìan wahanol ymddygiadau Duw tuag at ei greaduriaid ; y mae ein hamgyfíredion mor fyr, ein deall mor dywyll, fel ag y mae yn rhaid i'r Duw mawr wisgo am dano nodwedda gwendidau dyn, er mwyn i ddyn ddeall ei ymddygiad tuag ato. Weithiau gallem feddwl mai Duw drwg iawn ei gof ydyw, " Ysgrifenwyd llyfr o goffadwriaeth ger ei fron ef," gellir tybied wrth hyn yna fod ei gof ef mor ddrwg, fel ag y mae yn rhaid iddo gadw Hemorandumbooh a chofiadur i ysgrifenu ar lawr ynddo yr