Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^mlpmd Cym?u. Rhif 56. AWST, 1891. Cvf V. YR YMGNAWDÜLIAD FEL AMLYGIAD O DDUW. GAN Y PARCH. B. HUMPHREYS (b.), FELINFOEL. " A'r Gair a wnaethpwyd ["addaeth" C. D.] yn gnawd, ac a drigodd ÿn ein plith ni ac (ni a welsom ei ogoniant Ef, gogoniant megys yr Uniganedig oddi- wrth y Tad) yn llawn gras a gwirionedd........... Ac o'i gyflawnder ef y der- bynfetsom ni oll, a gras am ras. Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. Ni welodd neb Dduw erioed : yr uniganedig Fab, yr hwn eydd yn mynwes y Tad, hwnw a'i hysbysodd ef."— Ioan I. 14—18. \H~y^7r GAIR," yn ei bertbynas â Duw ac yn ei berthynas â l_ dyn geir yn y rhan flaenaf o'r benod hon. Dysgir ni fod y Gair o'r lín natur a'r Tad, oblegyd dywedir rnai " Duw oedd y Gair:" y mae iddo Bersonoliaeth ar wahan oddiwrth y Tad, oblegyd yr oedd y Gair " gyda Duw :" ac y mae wedi tragwyddoi gydhanfodi â Duw, oblegyd " yn y dechieuad yr oedd y Gair." Yn y testun eawn y Gair yn dyfod "yn gnawd"—y natur Ddwyfol yn dod i uadeb a'r nater ddynol. Y mae adnod i4yn wrthran (counterpari) i adnod 1 : y mae eu brawddegau yn cyfateb y naill i'r lla.ll. (a), " Yn y dechreuad yr oedd y Gair; dyna y Gaifjn nhragwyddoldeb: " Y Gair a ddaeth yn gnawd.'' " Oedd " yn y dechreuad ; " a ddaeth," bedair cän- rif ar bymtheg yn ol, i'n byd ni. Dyna dragwyddoldeb ac amser yn cyd- gwrdd yn Iesu Grist. (b), " A'r Gair oedd gyda Duw." Dyna y Gair mewn cymundeb â Duw cyn ymgnawdoM ; ond y Gair oedd gyda Duw "a drigodd yn ein plith ni." " Gyda Duw ;" " yn ein plith ni." Dyna fodolaeth Ddwyfol yn dod i gysylltiad a bywyd dynol. (c), A Duw oedd y Gair." Dyna y Gair yn ei hanfod ; ond y Gair oedd "yn Dduw" a ddacth " yn gnawd." Wele Ddwyfoliaeth a dynohaeth wedi eu cyfuno