Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ptjiìPud *~Rhik 45.] MEDI, 1890. [Cyf. iv. Y CRISTION YN Y DIRGEL. GAN Y DIWEDDAR BARCH. ROGER EDWARDS, (M.C.), WYDDGRUG. "£anys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iuddew; ac nid enwaed- iad yw yr hyn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iuddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw."— Rhufeiniaid ii. 28, 29. k AU eithaf maw'r sydd yn cadw pechaduriaid oddiar ffordd y bywyd, ydyw anghrefydd a rhith-grefydd; diofalwch am grefydd ar un liaw, a ffurfioldeb gyda chrefydd ar y llaw arall. Fe gais y diafol i ddechre gadw dyn yn gwbl ddifeddwl am wasanaeth Duw, ac os nad all wneyd hyny, fe gais drachefn ei berswadio i orphwys ar yr " ymarfer corfforol," neu ffurfiau allanol gwasanaeth yr Arglwydd, á'r galon ymhell oddiwrtho. Mae yn wir fod gan grefydd yn mhob oes ei ffuTfiau a'i hordinhadau cyhoeddus, ac nasgellirynybyd hwn wneuthur hebddynt. Mae hanes yr eglwys yn dangos nad oes fodd gwrth-weitbio anffyddiaeth a llygredigaeth mewn esgetilusdod o osodiadau allanol Cristionogaeth. Lle nad ydyw corff crefydd yn weledîg, mae ei hysbryd hefyd wedi myned ymaith. Ond pechod parod i'n hamgylchu ni ydyw rhoi pwys mawr ar bethau allanol duwioldeb, a gwadu ei grym hi, gadael i'r duedd grefyddol sy'n gorwedd mor ddwfh yn nghydwybod r\at- uriol dyn, ymfoddloni ar ddefodau a seremoniau, heb fod y galon yn un- iawn gyda Duw. Fel hyn yr oedd yr Iuddewon, fel y dangosir yn y benod hon, yn ym- ffrostio yn eu breintiau cenedlaethol a seremoniol, ac yn ymddiried yn enwaediad eu cnawd, tra yr oeddynt yn ymarferol yn anufuddhau i'r ddeddf a'r cyfamod yr oedd y defodau yn arwyddion perthynol iddynt. Ond mae yr Apostol yn y testun yn dangos fod gwir grefydd yn beth tu- fewnol ac ysbrydol, ac nad yw Puw yn gwneuthur dim cyfrif o'r ymarfer-