Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 44-] AWST, 1390.* [Cyf. iv. DIM NEWYDD DAN YR HAUL. GAN Y DIWEDDAR BARCH. WM. AMBROSE, (a.), PORTHMADOG. 'Y peth a fu a fydd, a'r peth a wnaed a wneir 5 ac nid oes dim newydd dan yr haul. A oes dim y gellir dweyd am dano, Edrych ar hwn, dyma bethnewydd ? Efe a fu eísioes yn yr hen amser o'n blaen ni."—Preg. i. 9, 10. EWN oes fel ein hoes ni, pan y mae cynifer o ddargan- fyddiadau newyddion yn tori allan ar bob llaw,—pan y mae un gelfyddyd yn gwaeddi allan, " Wele yma !" ac un arall, " Wele acw !" dichon y teimlir fod cryn wroldeb yn ofynol i ddârllen testyri fel hyn, am yr ymddengys fel wedi myned allan o ddyddiad. Ond yr ydym ýn credu yn ei wirionedd, am ei fod wedi ei ysgrifenu dan ddwyfol ysbrydoliaeth, ac y mae o bwys i ni gael gafael ar feddwl yr Ysbryd Glan yn y geiriau. Dywed rhai mai y meddwl yw nad oes un darganfyddiad na bu rhyw- beth tebyg o'r b'aen yn yr oesau gynt. Os dywedwn ni fod yr agerdd yn newydd, dywed y Chineaid eu bod yn ei adnabod er's oesau. Felly y gelfyddyd o argrafifu. Y mae science newydd a elwir mesmerism yn synu y byd, ond y mae rhai yn ceisio profi ei bod mewn aríeriad yn mysg y Syriaid a'r Aiphtiaid mewn hen amseroedd. Er cymaint yw gorchestion yr oes hon, pe gwybyddem fwy o hanes swynyddion yr Aipht a Chaldea, a chelfyddydwyr yr hen oesau yu gyffredinol, gwelem, ond odid, fod llai o newydd-deb yn y byd nag a feddyliasom. Dywed eraill mai ystyr y testyn yw, nad oes un defnydd neu sylwedd newydd. Y mae yn wirfody steamengineyn newydd, ondnidyw yr haiarn yn newydd, Nid oes diiu sylwedd newydd er pan wnaed y ddaear. Nid yw yr holl gyfnewidiadau ond traws-ffurfiadau o'r un sylwedd. Nid yw cnwd y flwyddyn hon ond cnwd blwyddyn arall; ac nid yw ein cyrfî ©nd hen sylweddau. Pa le yr oedd defnyddiau ein cyrfí ddeng mlynedd yn ol ? Pa Ie y bydd yn mhen deng mlynedd i ddyfod ? Feallai mai raewn corff anifail, ac felìy "'nid oes dim newydd dan yr haul." Y mae