Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 38.] CHWEFROR, 1890. [Cvf. iv. YMGYSEGRIAD I DDÜW. GAN Y PARCH. WILLIAM PRYDDERCH, (m.c.,) GOPPA. " Am hyny yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn vw eich rhesymol wasanaeth chwi. Ac na chyd- ymffurfiwch â'r byd hwn : eithr ymnewidiwch drwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw."—Rhufciniaid xii. i, 2. AE pawb sydd wedi sylwi ar yr adnodau yma, yn cofio eu bod yn gynullfan lki o wirioneddau mawr iawn ; fel ar yr olwg gyntaf y mae yn anhawdd penderfynu pa gyfeiriad i gymeryd. Yr adnodau hyn ydynt jundion fawr yr Epistol. Y mae holl wirioneddau y penodau blaenorol yn rhedeg i'r rhai hyn ; ac y mae holl wir- ioneddau y penodau dilynol yn rhedeg o'r rhai hyn i bob cyfeiriad. Ond y mae yr Apostol wedi cylymu gwirioneddau y penodau blaenorol wrth eu gilydd yn adnod gyntaf ein testyn, ac enw y train igyd ydyw—"Trugareddau Duw." Cyfiawnhad trwy ffydd yn ei gyfanrwydd, ac yn ei fanylion, pob gwirionedd a berthyn i'r athrawiaeth, eu dyfnder, a'u dirgelwch, " Trugareddau Duw " ydyw yr oll. Y mae yn anmhosibl darllen yr Epistol heb deimlo drwy ein henaid ein bod ni wedi cael lle mawr iawn yn mcddwl Duw. Yn nwfn ddistawrwydd tragwyddoldeb, y ni oedd gwrthrychau Ei sercb a'i gynlluniau. Yr oedd wedi ymgysegru yn y cwbl oedd, a'r cwbl a fcddai, yn Dduw at ein gwasanaeth ni. Duw i ni ydoedd. Y canlyniad naturiol yn awr ydyw i'r Duw a gysegrodd ei Hunan mor llwyr i ni, i'n henill ninau i gysegru ein hunain yn ol iddo Ef. Fe roddodd Duw ei hunan i ni, er mwyn cael trefn i'n tynu ni i roddi ein hunajn iddo Ef.