Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

>♦♦♦♦♦ Rhif 29.] MAI, 1889. [Cyf. iii. »»♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦« Y BYWYD NEWYDD. GAN Y PARCH. JOHN THOMAS, CAEEFYRDDIN, "Beth wrth hyny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhâo gras ? Na atto Duw. A ninau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto, ynddo ef ■?"— Rhufeiniaid vi., 1, 2. Yn y benod hon y mae yr Apostol yn myned rhagddo yn ei ymres- ymiad oddiwrth y pwnc 0 gyfiawnhad credadyn at ei sancteidd- had, oddiwrth gyfnewidiad cyfiwr at adnewyddiad buchedd. Y peth cyntaf yn iachawdwriaeth pechadur ydyw ei gymodi â Christ: yr ail beth yw ei wneyd yn debyg iddo ; dod a hwy yn ffrindiau yn gyntaf, ac yna ar ol gwneyd y gelyn yn gyfaiil, |gwneyd gwasan- aethwr o hono. Y mae cadwedigaeth dyn yn dechreu drwy ei ad- feru i ffafr ei Greawdwr, yna i'w ddelw ac at ei waith ; ei heddychu â Duw yn gyntaf "drwy farwolaeth ei Fab Ef," yna, ei gadw yn ei wasanaeth : rhyddhau y carcharor yn gyntaf, tori y cadwynau sydd am dano, ei osod ar dir rhyddid prynedigaeth ; yna, ei ddefnyddio *-. er clod ei ras Ef." Dydi Duw ddim yn emŷloyio slaves, 'does dim caethion yn bod ar diriogaeth y DuwTdod mewn un byd nac mewn un wlad. Dynion rhydd sydd yn canu ei fawl Ef, dynion rhydd sydd yn gweddio arno, dynion rhydd sy'n cyfranu at ei achos, a dynion rhydd sydd yn pregethu ei eiriau ar dir rhyddid bywyd. Y maent yn methu gwneyd digon dros y Gwr a ddiylliodd y cadwynau oedd am danynt. Gobeithio y bydd yma rywrai heddyw yn myn'd yn rhyddion. Dydi'r Apostol ddim yn myn'd at y pwnc o sancteiddhad ar wahan oddiwrth y pwnc o gyfìawn-