Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦*♦♦»♦'♦♦♦>♦♦«>♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦> Rhif 28.] EBRILL, 1889. # [Cyf. iii. . i4^44a*aaaa jiAAiiAAAgA^m^^gA^jj_>_•_______________L_^__Jl_______L_L_L_L_L_L__--_l______éÉéi ELIAS AR BEN CARMEL GAN Y DIWEDDAR BARCH. RICHARD OWEN, Y DIWYGIWR. " Ac Elias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl ? os yr Arg- lwydd sydd Dduw, ewch ar ei ol ef; ond os Baal, ewch ar ei ol yntau. A'r bobl nid atebasant iddo air."—1 Brenhinoedd XVIII. 21. . Fel y gwyddoch, yr ydym wedi darllen yr adnod yma y nos- waith o'r blaen. Y mae yr Arglwydd yn dod allan dros ei enw a'i achos yr adeg yma am fod ei bobl mewn gwrthgiliad mawr. Ac felly yr oedd crefydd yn isel iawn yn y wlad Mae yn awdurdodi Elias y Thesbiad i fyn'd at y bobol i ddweyd yr hyn a fynai ef ei ddweyd wrthynt. Ac y mae i fesur helaeth yn gosod Elias i'r bobl am ysbaid megis yn lle Duw. Mae Elias yn myn'd at y bobl a'r brenin oedd yn Samaria, sef Ahab, ac yn dweyd wrtho na byddai dim gwlaw yn y wlad am dair blynedd a chwe' mis ond yn ol ei air ef; hyny yw, na byddai dim gwlaw, a bod hyny yn unol a'r hyn yr oedd ef yn ei ddweyd. Mae wedi cael yr awdurdod gan Dduw. Yr Arglwydd yn gosod Elias i sefyll megis yn ei le ar y bobl anufudd yma. Ni welwn hyna yn íynych yn hanes yr Arg- rwydd neu yn hanes ei bobl—y Jehofah mawr yn cymeryd ei wthio yn raddol oddiwrth ei eglwys. Felly y dywedai wrth Moses, mae yn rhoi arddeall iddo nad oedd am ddod gydag o yn mhellach na rhyw adeg a lle ; " ond," meddaä, " fe gaiff fy angel i ddod rhag i ddim fod heb ei wneyd i fyny; rhi anfonaf fy angel gyda thi.."'■ Ond fynai Moses ddim myn'd gyda'r un gwas oedd ganddo. Os