Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

♦♦♦♦♦♦♦♦»♦»»»♦»»»♦»♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦< '♦♦♦♦♦< Rhif 26.] CHWEFROR, 1889. [Cyf. iii. ♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦«♦♦«♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦> AWN YN HYDERUS. Gan y Prifathraw D. Charles Davies, m.a., Trefecca. "Am hyny, awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd ac y caffom ías yn gymhorth cyfamserol." Hebreaid iv. 16. Mae yn ddiameu fod yr adnod hon wedi bod yn gynaliaeth ac yn gysur i ddynion yn mhob math o amgylchiadau, ac wedi cael ei chymhwyso gan lawer at bethau ag y mae Rhagluniaeth y nefoedd wedi ei ddwyn arnynt. Ond wrth ddefnyddio y geiriau ar gyfer pob amgylchiad, yr wyf yn tybied fod ei phrydferthwch yn cael ei guddio o'r golwg, nad yẁ yr adnod er y cwbl ddim yn ei gogoniant ond yn yr ystyr neillduol ag oedd gan ysgrifenydd Llyth- yr at yr Hebreaid wrth ei hysgrifenu; ac er ei cymhwysir at bob math o amgylchiadau, nis gwelir ei mawredd na'i hardderchowgrwydd ond yn yr hyn oedd yn meddwl yr Apostol, pwy bynag ydoedd, wrth ei hysgrifenu. A cheisio wnaf yn bresenol yn gyntaf ddangos beth oedd yr ystyr hono. Er mwyn arwain at hyny rhaid i ni ddychwelyd at y bedwerydd-adnod-a'r-ddeg; "glynwn ynein proíf- es." Ac y mae yn amlwg mai un o amcanion ysgrifenu y llythyr ydoedd anog disgyblion yr Arglwydd Iesu i lynu ynddo ; nid wyf yn dweyd mai dyna yr unig amcan ; ond y mae yn amlwg fod hyn yn un amcan. Mae 'glynu yn ei broffes' yn tybied o anghen- rheidrwydd fod yna anhawsderau i fod i hyny; ac fe enwir yr anhawsderau hyny ymhellach ýmlaen yn y Llythyr: a dyna hwy, • Gelwch i'ch cof y dyddiau o'r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo y dioddefasoch ymdrech mawr 0 helbulon; ac wedi eich gwneuthur