Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

v»«♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦»♦»♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦«■♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦ Rhif 25.} IONAWR, 1889. [Cyf. iii. ♦♦♦« ♦♦♦♦■♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦ ♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦■»♦-♦♦.♦♦♦♦♦, MEDDYLIAU DUW. Gan y Parch. John Thomas, d.d., Le'rpwl. "Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd. Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na'r ddaear, feliy uwch ywr fy fíyrdd i na'ch ffyrdd chwi, a'm raeddyliau i na'ch meddyliau chwi,"—Esaiah lv. 8, 9. Mae y geiriau hyn, fel yr ydych yn clywed, yn son am feddyliau Duw ac am ffyrdd Duw. Ffyrdd Duw mewn bwriad yw ei fedd- yliau, meddyliau Duw mewn gwaith ydyw ei ffyrdd; yn guddiedig yn nghyngor Duwr, meddyliau ydynt; yn ddadguddiedig yn ei Air, ffyrdd Duw ydynt. *' Meddyliau Du?v" Y mae son am feddyliau Duw, ar unwaith, yn cyfiwyno y syniad o Dduw personol, yn meddu deall ac ewyllys. Nid matcr ydyw Duw; nid y Greadigaeth ydỳw Duw; oblegid fedr defnydd ddim meddwl; fedr y Greadigaeth âdim meddwl. Y mae Duw yn y greadigaeth yn fj^wyd drwyddi i gyd, ond y mae Ef ei hun yn meddu bodolaeth bersonol ar wahan i'r greadigaeth, yn annibynol ar bob peth a wnaeth efe. Duw personol ydyw, oblegid y mae yn medru meddwl; ac y mae son am feddyliau Duw yn cyflwyno y syniad o Dduw personol, yn meddu deall ac ewyllys a chalon. 'Meddyliau Duw •' Meddyliau gwfeiddiol a, thragwyddol ydynt. Yn wir, a siarad yn fanwl, Duw yn unig sydd yn wreiddiol. Fe glywsoch lawer o son ymysg dynion am feddylwyr gwreiddiol a meddyliau gwreiddiol; ond y gwir àm dani efelychwyr ydyw pawb ond Duw. Efe yn unig sydd yn wreiddiol. Yn nghysgod meddyliau Duw y mae pawb arall yn medru meddwl; yn nghysgod gweithredoedd Duw y mae pawb arall yn gweithredu. Dringo i fyny at natur y mae celfyddyd ar