Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

' Rhif 24 ] RHAGFYR, 1888. [Cyf. II. pE/Eg-eth s:x:i-v". AIL EN.EDIGAETH. Gaií y diweddar Barchedig Lewis Edwards, dd., Bala. " Ac megys y dyrchafodd Noses y sarỳh yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn : Fel na choller ỳwy bynag a gredo ynddo ef ond caffael 0 hono fywyd tragy- wyddol.—Ioan iii. 14, Jjr. Y mae y geiriau hyn yn eich cof, mi debygaf, bawb o honoch, ond peth arall ydyw sylwi a myfyrio ac ystyried beth sydd yn y geiriau, ac yn arbenig beth sydd yn ein rhwystro i ystyried. Mae v geiriau yn rhan o'r ymddiddan rhwng yr Arglwydd Iesu a Nicodemus, yr hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, a hyny, mae'n amlwg, rhag ofn yr Iuddewon. Er ei fod yn wr mawr yn Israel, eto yr oedd arno ofn digio y genedl; yr oeddynt wedi eu gorlenwi â llidiawgrwydd yn erbyn y Gwaredwr. Ond er ei fod yn ofnus, yr oedd ar yr un pryd yn ddifrifol; yr oedd o ddifrif yn chwilio am y gwirionedd. Yr oedd am ddeall pwy oedd Iesu Grist, a beth oedd natur ei deyrn" as ef, y deyrnas newydd oedd yn ei chynyg iddynt. Ac y mae yr Arglwydd Iesu yn ymddwyn yn wahanol iawn at Nicodemus—nid fel y bydd gau-athrawon yn gwneyd yn gyffredin. Eu ffordd hwy yn gyffredin ydyw cuddio yr anhawsderau o'r golwg, a rhoi'r des* grifiad mwyaf manteisiol, mwyaf enillgar o'u crefydd o fiaen eu disgyblion ieuaipc. Ond y mse lesu Grfst yn ccícd yr amodau ar