Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lìîîl.B.......... . ,.,., ......,. Rhif 23.] TACHWEDD, 1888. [Cyf. II. PBBGETH ZXIII. "CORSEN YSIG NIS TYR." Gan y Parch. J. PULESTON JONES, B.A., Bala. " Wele, fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais ; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn foddlon : gosodaf fy ys- pryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd; Nid ymryson efe, ac ni lefain : ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd ; hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugol- iaeth. Ac #n ei enw ef y gobeithia y Cenhedloedd." Mathew xii. 18—21. Nid yw y gwahaniaeth ddim yn bwysig rhwng y geiriau hyn a'r geiriau fel y ceir hwy yn nechreu yr ail-a-deugain o Esaiah. Yr wyf yn eu darllen o'r fan yma er mwyn cael mantais i esbonio y broph- wydoliaeth yn ngoleu y cyflawniad o honi. " A'r Iesu, gan wybod, gan wybod fod y Phariseaid yn ymgynghori yn ei erbyn pa fodd y difethent ef, a giliodd oddiyno, a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt oll, ac a orchymynodd iddynt na wnaent ef yn gyhoedd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd: " Felly, y peth yn y broph wydoliaeth y myn yr Efengylwr i ni graffu arno ydyw arafwch y Messiah yn dwyn ei waith ymíaen. Dyma echel y brophwydoliaeth, " Nid ymryson efe ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd." Chy- mer o ddim o lawer bob cyfle fuasai dynion yn ddisgwyl iddo gÿm-