Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

D)1îî.ö: Rhif 22.] HYDREF, 1888 [Cyf. II. peegeth x:x:ii. MABOLAETH A SANTIOLAETH CREDINWYR. Gan y Parch. Abel J. Parry, Caerfyrddin. "At bawb sydd yn Rhufain, yn anwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint."—Rhufeiniaid i. 7. Yn y geiriau hyn, y' mae yr Apostol, ar ol gwyriad adnodau 2— 6, yn myned.yn mlaen gydag ail fater y cyfarchiad priodol, sef y cyfeiriad. Y mae y cyfeiriad yn nodi allan y personau at y rhai yr ysgrifenwyd yr Epistol. Hynodir y rhai hyny gan ddau beth—lle eu ŷreswyliad, a'u cymeriad. I. Y Lle—Rhufain. Yr oedd perthynas boliticaidd Rhufain â'r holl fyd fel prifddinas yr Ymerodraeth y rhoddai enw iddi—ei bywiogrwydd anarferol yn ngwahanol feusydd gwybodaeth, philos- ophyddiaeth, gwyddoniaeth, a chelfau yr oes,—yn ei gwneyd yn gynrychioliad o feddylgarwch y byd gwareiddiedig. Ceir felly fod y mwyaf galluog a llafurfawr o'r holl gyfres o'r Esboniadau Apos- tolaidd o drefn yr Efengyl wedi ei gyfeirio i ganolbwynt bywyd a gweithgarwch gwareiddiad. Ymddengys fod yma briodoldeb, ie, yn wir, drefniant rhagluniaethol, yn nghysylltiad yr ardderchocaf o'r holl Esboniadau ysbrydoledig o'r Efengyl â phrif-ddinas y byd. Y mae yn ffaith nodedig o arwyddocaol, fel prawf o ysbryd eang- frydig yr Efengyl. Profa nad yw yr Efengyl yn fater twll a chongl [Cyfieithiad ydyw hon o gyfres o bregethau esboniadol ar y Rhuf- einiaid y mae yr awdwr yn ei ddarparu i'r wasg yn Seisnig.]