Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PütPÜB CTÌfSfi, ^♦♦♦♦♦♦♦^♦♦♦««MH«»»»4»^< Rhif 21.] MEDI, 1888. [Cyf. II, gîjsjgtt bob ^tt fjobblafon jjn m|m gufltor frpag. [ Gan y Parch. J. H. SYMOND, Towyn. "Nid amfy mod yn dywedyd 0 herwydd eisieu: canys myfi a ddysg ais ym mha gyflwr bynag y byddwyf fod yn foddlawn iddo"— Philippiaid IV. 11. Nid peth i'w ddysgu ydyw unrhyw foddlonrwydd ^echadurus, ond peth ag yr ydym eisioes wrth naturiaeth yn dueddol i ymollwng iddo. Ac y mae holl ddysgeidiaeth yr Efengyl^tuagat eín hanes- mwytho a'n gwneyd yn anfoddlawn mewn pob cyfìwr pechadurus.' Pan ysgrifenodd Paul eiriau y testyn, buasai y pellaf o bawb i fod yn foddlawn mewn cyflwr drwg. "Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorph," meddai, "ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy." Ni buasai ychwaith yn foddlawn o gwbl mewn cyflwr digynydd mewn gras a defnyddioldeb. Cawn ef newydd ddweyd yn y benod o'r blaen ;—" Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio y pethau sydd o'r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o'r tu blaen. Yr ydwyf yn cyrchu at y nôd, am gamp uchel alwedigaeth Duw yn Nghrist Iesu.'' Heblaw hyn nid ydym i dybied y gallai fod yn foddlawn i ddim mewn eraill oedd yn groes i egwyddorion yr Efengyl, neu yn dwyn arwyddion o anfoddlon rwydd Duwj "