Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PlîLPiîB t*^*^i(>^^***n**«*w*M«W'«w'%<rv'*v<«v>*<v*v>"V<,,v/,v*»s/« Rhif 20.] AWST, 1888. [Cyf. II. phbo-eth x:x:. GWEINIDOGAETH YR EFENGYL. GAN Y PAECH. EOIÎT. I'AERY (gWALCHMA]), LLANDUDNO. A ỳhregethu edifeinuch a maddeuant ýcchodau yn ci enw ef ytn mhlith 'yr holl gen/icdlocdd, gan ddechreu yn Jerusalem,—Luc xxiv. 47. Un o ffrwythau ymostyngiad, dioddefaint, marwòlacth, ac adgỳf- odiad Crist, oedd ei esgyniad i ogoniant, a'i ddyrchafiad ar dde- heulaw y Tad, a rhoddiad pob awdurdod yn ei law. Pan y cyfarfu a'i ddysgyblion yn Galilea, wedi adgyfodi o'r bedd, dyma yr anerchiad a roddes iddynt, " Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear." Pob awdurdod yn y nef i anfon yr Ysbryd Glan, a phob awdurdod ar y ddaear i achub pechaduriaid,— " Ewch, gan hyny, i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Yr oedd ei ddyrchafiad yn brawf o dderbyniad ei aberth. Yr oedd y datguddiad dwyfol, yn gyfyngedig i le, ac i genedl neillduol, ar ryw gyfrif, dan yr hen oruchwyliaeth, ond yn awr, y mae pob canolfur gwahaniaeth wedi ei lwyr dynu i lawr, ac y mae y dorau wedi eu hagor o lcd y pen, a bellach, y mae yr efengyl a'i golwg ar bob gwlad, ac ar bob cenedl yn ddiwahaniaeth. Y mae y testyn yn cynwys yr awdurdodiad a'r gorchymyn i bre- gethu yr efengyl, yn nghyd â chynwysiad y genadwri. Rhydd fantais i ni sylwi ar yr athrawiaethau sydd i'w pregethu,—y modd y maent i gael eu cyhoeddi,—yn nghyd a'r lleoedd y maent i gael eu Çraddodi ynddynt.