Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1ÎLPÎλ GTÌIfiü Ehif 3.] MAWRTH, 1887. [Cyf. I. PBEGETH III. "YDWYF YR HWN YDWYF." Gan y diweddar Barchedig Boger Edwards, Yr Wyddgrug. " A Duw a ddywedodd wrth Moses, Ydwyf yr Hwn Ydwyf. Dy- wedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, Ydwyf yr hwn a'm hanfonodd atoch."—Exodus iii. 14. Yk ydym yn cael y geiriau mawreddus hyn yn gysylltiedig â'r hanes am amlygiad rhyfedd Duw i Moses, pan y rhoddodd iddo alwad ac awdurdodiad i ddwyn Israel ailan o'r Aipht. Yr oedd Moses ar y pryd yn anialwch Horeb, yn bugeilio defaid Jethro, ei dad yn nghyf- raith. Nid yw yn debygol y buasai rheswm dynol yn cyfeirio i'r fath le i edrych ain waredwr i bobl Dduw o dỳ y caethiwed. Pan y ceir dynion yn myned i wneuthur ymgyrchoedd mawrion a pherygl- us, gwelir hwynt yn casglu adnoddau, yn codi byddinoedd, yn ym- gadarnhau trwy gynghreiriau, gar wneuthur cynhwrf a rhwysg dir- fawr. Ond pan yr elo Duw i wneuthur pethau mawrion, wele ef yn myned yn mlaen yn berfîaith ddidrafferth a digyffro. Pan yr oedd byd, ie, cynulleidfa o fydoedd, i neidio allan o ddim, nid oedd raid i Dduw ond gorchymyn, a dyna y greadigaeth faith ar unwaith yn ymddangos. Pan yr oedd eisieu i haul gyfodi, a goleuni i le- wyrchu o dywyllwch, " Duw a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu." Ac yn awr, a ydyw y genedl alluocaf ar y ddaear i'w darostwng, a chenedl orthrymedig i'w rhyddau a'i dyrchafu 1 Geilw Duw, nid ar ben-rhyfelwr enwog yn blaenori byddin o fìl o fil- oedd, ond ar hen wr pedwar ugain oed, lìariaidd ei wedd, ac afrwydd ei ymadrodd, gyda'i fugeilffon yn ei law, yn nghanol gỳr o ddefaid mewn anialwch mynyddig. Gallasem ni feddwl pe ceisiasid Moses ddeugain mlynedd yn gynt, y buasai efe yn llawer cymhwysach nag yn awr at y gwaith y gelwid ef iddo. Y pryd hwnw, cawsid ef yn llys yr Aipht, yn uchel ei fri, a dewr ei ysbryd, ac wedi cyfoethogi ei feddwl â holl drysorau doethineb dyn. Ond y gwir ydoedd ei fod ef yno yn rhy anaddfed i weithredu gweithredoedd Duw. Yr