Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JÜ 7,-/7 A PIÎLPTO ÖÎMllî. Rhif 2.] CHWEFROR, 1887. [Cyf I. PBEGETH II. "YR IESU A WYLODD," Ioan xi. 35. Gan y diweddar Barch. J. Harries Jones, Ph.D., Trefecca. Un o'r enwau arforol ar yr Iesu ydyw " y gwr gofidus," ac y mae yr enw yna yn ddesgrifiad pur nodweddiadol o'i gymeriad ac o'i hanes tra y bu yn ein byd ni. Yn y cyffredin yr ydym yn ei gaeí yn wylo gyda'r rhai oedd yn wylo. Ond y mae yn ffaith nodedig fod y gwr gofidus yma wedi dechreu ei fywyd cyhoeddus mewn priodas, mewn lle llawen, lle ag y mae pawb yn llawen, lle yr edrych pawb yn éiriol a gwên ar eu hwynebau—arwyddion llawenydd i'w weled yn mhobman, hyd yn nod 0 gwmpas, ac i mewn yn y tŷ, ac ar hyd y ffordd. Wel, mewn priodas y dechreuodd y gwr gofidus ei fywyd cyhoeddus—yn y briodas yn Cana Galilea, lle y cyfiawnodd y wyrth gyntaf a gyfiawnodd erioed. Ac yr oedd yn ffodus iawn ei fod yn bresenol yn y briodas, oblegid heb ei bresenoldeb a'i hynawsedd a'i garedigrwydd, buasai y lle 0 lawenydd yn cael ei droi yn lle o dristweh ac 0 alar, yn enwedig i'r pâr ieuanc, oherwydd darfod y gwin. Ond fe ddaeth yr Iesu allan mewn pryd, a sychodd ymaith y dagrau cyn i'r dagrau hyny gael amser i ddangos eu hunain ac i lifo i lawr eu gruddiau. Ac yn y cyffredin, meddaf, yr ydym yn ei gael.yn wylo gyda'r rhai sydd yn wylo. Felly y gwna yn ol y testyn a'r adnod ddilynol—"Yr Iesu a wylodd." Dyma ni yn