Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PtfLPUD «11 Hhif 1 ] IONAWR, 1887. [Cyf. I. PBBG-ETH I. Y M D D A ROST YN G I AD CRIST. Gan Dr. Edwards, Bala. " Eithr Efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd arno agwedd gwas." Philippiaid ii. 7. Yr hyn sydd gan yr Apostol yn y geiriau o flaen y testyn yáyw esiampl yr Arglwydd Iesu Grist, a'i. amcan yn dwyn y mater hwn yn mlaen ydoedd i argraffu eu meddyliau yr angenrheidrwydd am hunanym ;vadiad a gostyngeiddnvydd. Ac yr ydym yn gwel'd wrth ddarllen y geiriau fod grym yr esiampl yn tarddu o fawredd Person Crist. Dyna sydd yn ei wncyd ef yn esiampl, ei fod ef mor fawr, mor uchel, a hwnw wedi yniostwng,—dyna sydd yn gwneyd ei esiampl ef na fu erioed ei chyffelyb, na chlywyd erioad am ei bath. Ac y mae yr Apostol yn dechreu gyda'r mater hwn yn y clrwcched adnod. Ar ol eu hanog i geisio "y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yn JSTghrist Iesu," mae yn myn'd yn mlaen i ddangos ei fawredd ef, " yr hwn ac efe ýn ffurf Duw ;" yr oedd e mor uchel a bod yn ffurf Duw. Y mae gwahaniaeth yn ngolygiadau rhai ar y rhanyma; beth sydd i ni ddeall with ei fod yn "ffurf Duw ?" ilae rhai yn cymeryd y gair i olygu yn unig y " gogoniant oedd iddo gyda'r Tad cyn bod y byd," yr hwn a roes Crist heibio, yr hwn y mae yn gofyn am ei gael drachefn. Ond y niae yn fwy tebyg fod y gair yn arwyddo "l^