Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TARIAN RHYDDID- ADFYWIAD BYDOL-GREFYDDOLRWYDD YN EGLWYS LOEGR Y DYDDIAU PRESENOL. (Allan o'r Silnrian.) Syr,— GWYDDOCH fod gwir ddyngarwch Crist'nogol yn cael gwir foddâad yn sêl gynnyddol duwiolion at ddaioni tragwyddol eu cyd-ddynion, Ystyriwn fy huíi yn athrodwr pobl Dduw pe du-nodwn gymeriad y gweinidogionsefydledig heb wneyd addefiadau o gywirdeb yr ychydig gredinwyr gostyngedig a chyson a geir yn eu plith. Ar yr un pryd, ni ddylem gymeryd yr ychydig eithriadau hyn mewn un modd yn rheol i'n cyfarwyddo wrth farnu am wir nodwedd y sefydliad; neu i benderfynu pa beth yw ein dyledswyddau perthynol tuag ati fel dosparth o'r cyfundeb Crist'nogol. Ni awdurdodir ni gan Sylfaenydd dwyfol Crist'nogaeth i estyn ein caredig- iwydd at unrhyw ddosparth o ddynion a halogant argjrhoeddiadau mwyaf pwyllus ein cydwybodau, nac i beidio a dynoethi yn gyhoeddus ymarferiadau cyhoeddu» ag y sydd yn gwenwyno moesau a chrefydd cymdeithas. Y cjTnhellion a gyneuant y cynhwrf gwladol yn Eglwys Loegr i fwy o weithgarwch mewn crefydd, ydynt amlwg i bob dyn o sylw. Y mae ymddygiad ei gwein- idogion yn brawf nad yw yn efFaith bod dydd Pentecost wedi cymeryd lle yn eu plith. Y mae egwyddorion, mewn un ystyr, yn gorwedd yn rhy ddwfh yn y meddẃl i ni allu eu chwilio aîlan yn union-gyrchol. Ond pwy a all wadu nad ydyw ymddygiadau cyhoeddus yn rhoçLdi gwir fynegiad o'r hyn sydd yn gorwedd yn ddirgel yk y ìaeddwl? * * * *