Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TARIAN RHYDDID, Bliif. 7. G03KFEH&ATAJF 1339. Pris $#. YR EGWYDDOR WIRFODDOL. HYSBYS i amryw o'n darllenwyr, ond odid, ddarfod i bleidwyr erefydd sefydledig yn Llundain y llynedd gytuno i anfon deisyfìad at yr enwog Dr. Chalmers, o Edinburgh, i ddyfod drosodd i draddodi cyleh o ddarlithau er amddiffyniad eu trefniant, ac iddo yntau gydsynio â'u cais. Anfonodd yr*ochr arall ddeisyfiad at ŵr enwog aralj, Dr. Wardlow, o Glasgow, i ddyi'od drosodd eleni i draddodi cylch o ddarlithau mewn atebiad i'r eiddo Chalmers. Y mae wedi traddodi wyth, ac y maent yn awr wedi eu hargrafFu. Cymerwyd y piçion can- îynol allan o'r bumed;—ar " Amcanion pieidwyr yr eywyddor wirfoddol, a'r moddion drwy y rhai y ceisiant eu cyrhaeddyd.^—A yn mlaen fely canlyn;— "Ymaellawero bethau gwrthun wedi eu dywedyd a'u cyhoeddi ar y mater hwn, y rhai y rhaid eupriodoli naill ai i ddirfawr anwybodaeth ac ynfydrwydd, y fath na allésid dysgwyl ei fod yn hanfodi mewn rhai o'r manau y tarddodd yr haeriadau ynfyd o honynt, neu i gamdd arluniad gwi rfoddol. "Disgrifir pleidwyr yr egwyddor wirfoddol fel gelynion ymrodagar yr Eglwys Sefydledig, yn ymgais am ei dinystr, drylliad ei themlau, yspeiliad ei gwein- idogion er boddâau yr egwyddor druenus a hunan-geisiol o reibiaeth am ddyrchafiad a mawrwychedd sectaraidd. Buasai yn dda pe na ddaethai y fath ddysgrifiadau ond yn unig oddiwrth israddolion yr Eglwys; oddiwrth ryw goeg-areithiwr a fyddai yn fwy awyddus i warad- wyddo ei wrthwynebwr nag i osod allan a thaenu y