Skip to main content

TARIAN RHYDDID, "^BhÌÎTeTMEÎlEFÎÍ 1839. Pris *lg. HELYNTION GWLADOL. ER pan wnaeth ein Tarian ymddangosiad o'r blaen, y mae cyfnewidiadau Ued bwysig wedi dygwydd yn ein llywodraeth; yr liyn, ond odid, sydd hysbys i'r rhan fwyaf', os nad i bawb o'n darllenwyr. Cafodd y Torîaid a'r uehel-Eglwyswyr "betli chwerwach nag angeu!'' wedi eu cocìi i uchelderau gobaith, dysgwyl- iadau mawrion, a gorfoledd annhraethadwy, cawsant yn ddisymwth eu disgyn i iselderau pwll sioinedigaeth; gwywodd eu gobeithion a'u dysgwyliadau ger bron eu llygaid, machludodd eu haul tra yr oedd hi yn ddydd; trôddGweinyddiaeth Peel, neti ei ymgais i fî'urfio un, yn erthyliad hollol:—mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu! Parodd y newydd o fod Arglwydd Melbourne a'i gydswyddwyr yn rhoddi eu Ueoedd i fynu, i'r Toriaid a'r uchel-Eglwyswyr haner ynfydu gan lawenydd. Llawen gyfarchent eu gilydd ar yr heolydd,—cyhoeddent y newydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus,—cenid clychau y llànau mewn llawer o fahau, ac wele drwy yr holl wersyll lawenydd a gor- foledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, a bwyta cig, ac yfed gwin. Ond Och! yn nghanol y gorfoledd dyma y newydd alaethus fod Syr R. Peel, anadl eu ffroenau, am yr hwn y dywedasent, " Danei gysgod ef y byddent byw"—wedi methu ei nód, gorfod rhoddi ei ymgais i fynu, a'r hen weiriidogion wedi eu galw i adgymeryd eu swyddau! Ỳ mae y cais haerllug-frwnt o eiddo y Toriaid i gyfyngu ar ryddid personol ein hanwyl Frenhines ieuanc wedi dangos yn amlwg beth oedd i'r wlad ddysgwyl oddiwrthynt pe cawsent yr awdurdod i'w