Skip to main content

TARIAN RHYDDID, V ■■ f"> Bhif. *. CHWËFROR 1839. Pris <tg. GWARTHRUDDIAD SECTARIAETH. J^YWEDID yn yr hysbysiad am y "Dabian" mai un o'i dybenion fyddai Gwarthruddiad Sectariaeth, sef Sectariaeth y llywodraeth wladol. Y mae llywodraeth ein gwlad wedi bod yn Sectaraidd o'r dydd y sefydlwyd hi hyd y dydd hwn. Y mae yn wir ei bod wedi newid ei Sect fwy nag unwaith, ond ni newidiodd ei hansawdd Sectaraidd. Gosododd y Sect Babaidd yn gyntaf yn iau drom haiarnaidd ar wàr y wlad, o dan yr hon y cydgrymai " fel na allai mewn modd yn y byd ymun- iawni" am oesau lawer, a channoedd lawer o'i heddych- lawn ífyddlonaf ddeiliaid a drosglwyddwyd drwy garcharau a fflamau i wlad -well yn yr ysbaid hwnw o amser. Y gormesdeyrn Harri yr wythfed, un o'r dynion gwaethaf a gynhaliai ben rhwng ysgwyddau i wisgo coron erioed, oedd yr hwn a dorai yr iau hon oddiar ysgwyddau y deyrnas, er cael ei amcanion uchel-geisiol ei hunan yn mlaen; a gosodai un arali o'i wneuthuriad ei hun yn ei lle. Dros weddill ei deyrnasiad ef, a'r eiddo ei hynaws a gobeithiol fab, Edward y chweched, bu Esgobyddiaeth Brotestanaidd yn Sect ífafredig y llywodraeth, a throes i ddwrdio a phwyo yn ofnadwy yr hen Sect a fuasai mewn ffafr o'i blaen, yn gystal â phob Sect arall na chydymffurfient â'r un newydd. Twt! pan fu farw Edward, ysgrifenodd y Uywodraeth ei llythyr ysgar iddi hithau drachefn, a galwodd hen butain Rhufain yn ol, ac adsefydlodd yr hen ddeddfau i fwrw i garchar a thân bwy bynag na chydnabyddai mai hi oedd yr unig wir grefydd—a llosgodd yn lludw coch gnawd y rhai, ychydig ddyddiau o'r blaen, a wisgasai â mentyll a mitrau esgobol, ac a